Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newid Hinsawdd 2020 – Lansiad Ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Newid Hinsawdd 2020 – Lansiad Ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio
Y cyngor

Newid Hinsawdd 2020 – Lansiad Ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 6, 2020 8:55 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Climate Change
RHANNU

Wrth i ni nesáu at ddiwedd Newid Hinsawdd 2020, rydym yn lansio ymgynghoriad, a byddem wrth ein boddau pe baech cystal â chymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Cynnwys
  • Adeiladau:
  • Cludiant a Symudedd
  • Defnydd Tir
  • Caffael

Mae’n ymwneud â’n Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio drafft sy’n amlinellu sut fyddwn yn datblygu i fod yn sefydliad carbon niwtral. Fe wnaethom gytuno i lunio’r cynllun hwn pan ddatganwyd argyfwng hinsawdd y llynedd.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar bedwar maes:

  • Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar bedwar maes:
  • Adeiladau
  • Cludiant a Symudedd
  • Defnydd Tir
  • Caffael (y ffordd yr ydym yn cael gafael ar ein nwyddau a’n gwasanaethau)

Yn ogystal ag amlygu’r gwaith yr ydym eisoes wedi’i gwblhau yn y meysydd pwysig hyn, mae hefyd yn darparu manylion am ein cynlluniau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf mewn perthynas â’r pedwar maes.

Adeiladau:

  • Uwchraddio goleuadau LED
  • Technoleg pwmp gwres ar gyfer adeiladau mawr
  • Gosodiadau PV a storio batri ar draws ein hysgolion, swyddfeydd a chanolfannau cymunedol
  • Ailwampio cynaliadwy a charbon isel ein swyddfeydd ac ysgolion
  • Ymgorffori technolegau clyfar ac arloesol o fewn ein portffolio adeiladau.

Cludiant a Symudedd

  • Ehangu ein fflyd o gerbydau trydan ymhellach.
  • Parhau i ehangu ein rhwydwaith gwefru, ac addasu i’r galw cynyddol am yrwyr ceir trydan. Creu mwy o ganolfannau gwefru ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Defnydd Tir

  • Ymchwilio i safleoedd ar gyfer cynlluniau plannu coed ar draws y Fwrdeistref Sirol.
  • Datblygu gosodiadau adnewyddadwy mawr, gan gynnwys technolegau arloesol.

Caffael

  • Platfform Caffael. I sicrhau ateb cadarn, tryloyw ac amddiffynadwy ar gyfer gwerthuso cynigion ‘gwerth cymdeithasol’ a wneir gan gynigwyr yn erbyn blaenoriaethau allweddol y cyngor.
  • Rheoli Contractau. Offeryn rheoli contractau a ddefnyddir i reoli darpariaeth contractau a’r ymrwymiadau gwerth cymdeithasol sy’n gysylltiedig â hwy.
  • Ateb i roi gwybod am ddarpariaeth Gwerth Cymdeithasol ar lefel prosiect, adran a’r Cyngor yn gyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys mynediad at ddata heb fod yn ariannol (e.e. nifer y mentrau carbon) a data ariannol (e.e. £ gwerth a gynhyrchwyd drwy ostyngiadau carbon)

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym eisoes wedi ymgymryd â llawer o waith i leihau ein hallyriadau carbon, gan gynnwys agor fferm solar, gosod mannau gwefru ceir trydan mewn meysydd parcio, gosod paneli solar ar ein stoc dai addas a’n hadeiladau ein hunan ac ymgymryd â gwelliannau amgylcheddol sylweddol drwy blannu coedwigoedd a dolydd blodau gwyllt ar draws y fwrdeistref sirol.

“Mae’n amlwg y gallwn wneud mwy ac rydym yn annog trigolion, sefydliadau a busnesau am ein cynlluniau er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio ar yr opsiynau mwyaf ymarferol a chynaliadwy.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Teaching staff at Ysgol Clywedog during a training session.  Far left to right: Andrea Francis (standing), Leah Davidson, Melissa Flanagan, Alexandra Owens and Catherine Hughes. Ysgol uwchradd yn Wrecsam yn lansio rhaglen addysgu arloesol
Erthygl nesaf Efallai hoffech ddatgan eich diddordeb yn y swydd hon... Efallai hoffech ddatgan eich diddordeb yn y swydd hon…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English