Mae croeso cynnes iawn yn Ysgol yr Hafod, Johnstown, i’w plant newydd y Blynyddoedd Cynnar sydd â mwy o le, cyfleusterau ystafell ymolchi ychwanegol, a dodrefn ac adnoddau newydd, diolch i £32,000 o welliannau.
Mae’r gwelliannau wedi’u croesawu gan staff a llywodraethwyr sy’n teimlo bod yr ailfodelu yn gam cadarnhaol iawn i’r ysgol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Dywedodd y Cyng David A Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn yr ysgol: “Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn i’r ysgol ac rydym i gyd yn falch iawn o allu cefnogi’r gymuned leol ymhellach drwy gynnig Hawl Bore Oes yma yn yr ysgol.”
Croesawodd y Cyng Phil Wynn y newidiadau hefyd, a dywedodd: “Mae bod ag amgylcheddau ysgol sy’n addas ar gyfer y 21 Ganrif yn hanfodol i blant ddysgu er mwyn cyflawni eu llawn botensial.”
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.