Mae llawer o bethau’n digwydd yr wythnos hon drwy ardal Wrecsam fel rhan o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae disgyblion o Ysgol Cefn Mawr, Ysgol Min y Ddol ac Ysgol Rhosymedre wedi cynhyrchu llyfryn sy’n cynnwys manylion am fywydau a hanes dynion o’r ardal a aeth i frwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwnaeth pob ysgol ymchwilio i tua 40 o ddynion.
Cafodd y llyfryn ei ariannu gyda grant £9,000 gan Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog. Roedd eu gwaith yn rhan o brosiect ehangach i addysgu plant yn yr ardal am y rhyfel, a bu disgyblion yn ymweld â’r Goedfa Genedlaethol yn Swydd Stafford hefyd. Defnyddiwyd gweddill yr arian ar gyfer modelau silwét, sydd wedi’u gosod mewn ysgolion yr ardal a senotaff y pentref, a digwyddiadau ychwanegol i gael eu cynnal o amgylch y Gwasanaeth Cofio blynyddol.
Dywedodd y Cyng Derek Wright, aelod ward ar gyfer Cefn: “Mae plant mewn nifer o ysgolion wedi rhoi llawer o waith i mewn i ymchwilio hanes rhai o’r dynion o Gefn Mawr a fu’n gwasanaethu yn ystod y rhyfel, ac roeddem am sicrhau bod eu gwaith wedi’i gasglu, ei arddangos a’i gadw’n briodol ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r holl blant a fu’n rhan o gynhyrchu’r llyfryn yn haeddu cael eu llongyfarch am eu gwaith – mae digon o straeon am y rôl y chwaraeodd cymuned Cefn Mawr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’r plant wedi’u cofnodi’n wych.”
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Hoffwn ddiolch a llongyfarch Cyngor Cymuned Cefn Mawr am yr ymdrech maent wedi’i rhoi i gynhyrchu’r llyfryn hwn, yn ogystal â gwaith caled yr holl ddisgyblion a fu’n casglu straeon am ddynion Cefn a fu’n brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Gwnaeth y rhyfel effeithio ar bob cymuned, ac wrth i ni agosáu at nodi 100 mlynedd ers diwedd y rhyfel, mae mor bwysig bod pawb a fu’n gwasanaethu yn cael eu cofio.”
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I