Mae nifer o ddisgyblion Wrecsam a’u teuluoedd wedi bod yn profi’r buddion o gerdded, mynd ar olwynion, beicio a mynd ar sgwter i’r ysgol dros y misoedd diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer wyth ysgol yn Wrecsam i gymryd rhan yn ’Strydoedd Byw WOW: Her Cerdded i’r Ysgol sy’n annog defnyddio teithio llesol i’r ysgol ac adref.
Mae chwech o ysgolion Wrecsam yn cymryd rhan ar hyn o bryd gyda dwy ysgol arall ar fin lansio eu heriau yn fuan.
Y chwe ysgol sy’n cymryd rhan yw Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria, Ysgol Rhostyllen, Ysgol y Rofft, Ysgol Min y Ddol ac Ysgol Cefn Mawr.
Mae’n fenter wedi’i arwain gan ddisgyblion lle mae plant yn gallu rhoi hunan adroddiad ar sut i gyrraedd yr ysgol bob dydd yn defnyddio Traciwr Teithio WOW. Os ydyn nhw’n teithio’n gynaliadwy (cerdded/mynd ar olwynion, beicio neu fynd ar sgwter) unwaith yr wythnos am fis mi fyddan nhw’n cael eu gwobrwyo gyda bathodyn.
Mae’n syml ac mae plant wrth eu boddau yn cymryd rhan. Bob blwyddyn mae’r bathodynnau WOW casgladwy yn cael eu dylunio gan ddisgyblion mewn cystadleuaeth dylunio bathodyn blynyddol. Ar gyfartaledd mae ysgolion WOW yn gweld lleihad o 30% mewn siwrneiau car at iât yr ysgol a chynnydd o 23% mewn cyfraddau cerdded.
Rhwng 1 Medi, 2023 a 31 Mawrth, 2024 mae’r chwe ysgol yn Wrecsam wedi gweld y cyfartaledd canlynol:
- Cynnydd o 66% mewn cyfraddau teithio llesol i’r ysgol.
- Lleihad o 51% mewn gyrru’r holl ffordd i’r ysgol.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Mae’n galonogol iawn gweld ffigurau mor gadarnhaol. Mae teithio llesol yn arwain at well iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol, hefyd mae’n lleihau llygredd sŵn, llygredd aer ac allyriadau carbon. Mae mwy o bobl yn croesawu teithio llesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.”
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Rydym yn falch sut mae’r chwe ysgol wedi croesawu’r her, sydd wedi arwain at ganlyniadau gwych ac rydym yn edrych ymlaen at ddwy ysgol arall i lansio eu heriau yn y dyfodol agos.”
Gallwch ddysgu mwy am WOW yma: Her cerdded i’r ysgol ar wefan Living Streets.