Mae £14,410 miliwn nawr wedi’i gyflwyno i 1220 o fusnesau yn Wrecsam o dan gefnogaeth rhyddhau ardrethi busnes a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Er bod ceisiadau yn parhau i gael eu derbyn bob dydd, anogir unrhyw un sydd heb ymgeisio eto i wneud hynny drwy ymweld â https://beta.wrecsam.gov.uk/service/covid-19-cefnogaeth-i-fusnesau?_ga i wirio a fyddai eu busnes yn gymwys ac os felly, cyflwyno cais ar-lein.
Os ydych yn ymgeisio gwiriwch yn ofalus y manylion rydych yn eu darparu yn arbennig rhifau cyfrif banc a chod didoli Mae yna rai ceisiadau wedi cynnwys manylion anghywir sydd wedi arwain at oedi gyda thaliadau i rai busnesau.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae ein staff Cyllid a TGCh sy’n cynnwys staff o feysydd eraill, wedi gweithio’n galed iawn ers cafodd y rhyddhad ei gyhoeddi ac maent yn awyddus i fusnesau parhau i gael y gefnogaeth sydd ganddynt hawl iddi mewn modd amserol ond maent yn gofyn i fusnesau sy’n ymgeisio i wirio ac ailwirio eich cais i osgoi unrhyw oedi.
Dyma rai cwestiynau cyffredin ac atebion a all helpu:
Faint o amser mae’n ei gymryd i’r grant gyrraedd y cwsmer?
Dylai ceisiadau syml gymryd 10 diwrnod gwaith ond os oes yna ymholiad – er enghraifft manylion ar goll neu heb ei gwblhau ar y ffurflen gallai gymryd 2-3 wythnos felly llenwch y ffurflen yn ofalus os gwelwch yn dda. Os ydych wedi cyflwyno cais rhwng 26 Mawrth a 3 Ebrill efallai y byddai’n werth anfon e-bost at businessrates@wrexham.gov.uk i holi amdano.
Sut ydw i’n derbyn y grant – ydy o’n mynd yn syth i fy manc?
Ydy, mae’n mynd yn syth i’ch banc. Dyma’r unig ddewis a dyna pam ei bod mor bwysig darparu manylion banc cywir. Byddwn mewn cysylltiad os ydych wedi darparu manylion anghywir ond bydd hynny’n golygu oedi, felly ailwiriwch beth ydych yn ei gyflwyno.
Faint fydda i’n ei dderbyn?
Os yw eich Gwerth Ardrethol yn £12k neu lai, dylai fod yn £10k. Os yw dros £12k, dylai fod yn £25k (heblaw darparwyr gofal plant sy’n derbyn £10k beth bynnag yw eu Gwerth Ardrethol).
Beth yw’r amserlen ar gyfer ymateb i e-bost?
Nid oes yna amserlen benodol gan mai’r un tîm sy’n prosesu’r ceisiadau sydd hefyd yn delio gydag ymholiadau ac mae yna nifer uchel, fodd bynnag, dylech dderbyn ymateb o fewn 10 diwrnod.
Os oes gennyf ryddhad busnes bach eisoes gyda beth mae’r grant yn helpu?
Gallwch ddefnyddio’r grant ar gyfer beth bynnag y dymunwch e.e. cyflogau staff, rhent, cyfleustodau ac ati. Rydym ond yn gweinyddu ar ran Llywodraeth Cymru ac nid ydynt wedi darparu cyfarwyddyd clir ar hyn.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19