Mae newyddion da heddiw wrth i ni gyhoeddi y bydd £16.9 miliwn yn cael ei wario ar ailfodelu ac adnewyddu ein Tai Gwarchod dros y 5 mlynedd nesaf.
Wrth i boblogaeth Wrecsam barhau i dyfu a, yn unol â gweddill y wlad, mae nifer y bobl hŷn yn cynyddu bydd mwy o alw am dai gwarchod.
Ar hyn o bryd mae 656 uned o lety gwarchod o fewn 22 cynllun tai gwarchod ar wahân. Mae hyn yn 6% o gyfanswm ein stoc.
Adeiladwyd mwyafrif y stoc tai gwarchod yn y 1960au a’r 70au ac yn cynnwys cymysgedd o fflatiau un ystafell a fflatiau bychain.
Rydym wedi edrych yn ofalus ar y stoc hon a bellach mae gennym yr wybodaeth angenrheidiol am ei ddyfodol hirdymor a faint o fuddsoddiad sydd ei angen i ailfodelu’r cynlluniau i fodloni anghenion y dyfodol.
Ailfodelu’r cynlluniau tai gwarchod
Cafodd y buddsoddi cyfalaf sydd ei angen i ailfodelu’r cynlluniau tai gwarchod ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol ac mae rhaglen sylweddol wedi cychwyn a fydd yn cynyddu safonau maint y fflatiau, gwella safonau arbed ynni’r cynlluniau a moderneiddio’r ardaloedd cymunedol.
Penodwyd Ellis Williams Architects i ddylunio a rheoli ailfodelu dau gynllun gwarchod yn Llys y Mynydd, Rhos a Thir y Capel, Llai. Mae’r ddau gynllun yn cynnwys llety un ystafell wely bychan nad yw’n cyrraedd dyheadau nifer o bobl hŷn o ran dyluniad, lle, hygyrchedd ac arbed ynni.
Llys y Mynydd a Thir y Capel
Mae’r holl denantiaid yn y cynlluniau hyn wedi eu hysbysu yn llwyr ynglŷn â’r cynlluniau ac wedi eu sicrhau y bydd unrhyw symudiad er mwyn sicrhau bod y gwaith gwella yn digwydd yn sydyn ac yn effeithlon a bydd yn cymryd ystyriaeth o’u dymuniadau.
Ni fydd unrhyw gostau iddynt yn ystod y broses ac wrth gwrs byddant yn gallu dychwelyd i’w cartrefi pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
“Rhaglen Hirdymor o fuddsoddi yn ein cynlluniau tai gwarchod”
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi ymrwymo i gyflawni gwaith ailfodelu ac adnewyddu ar ein cynlluniau tai gwarchod ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. Bydd y rhaglen hirdymor hon o fuddsoddi yn ein cynlluniau tai gwarchod yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.”
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN