Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen £16.9m i wella ac adnewyddu ein tai gwarchod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > £16.9m i wella ac adnewyddu ein tai gwarchod
Y cyngor

£16.9m i wella ac adnewyddu ein tai gwarchod

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 9, 2020 11:29 am
Rhannu
Darllen 3 funud
sheltered housing
RHANNU

Mae newyddion da heddiw wrth i ni gyhoeddi y bydd £16.9 miliwn yn cael ei wario ar ailfodelu ac adnewyddu ein Tai Gwarchod dros y 5 mlynedd nesaf.

Cynnwys
  • Ailfodelu’r cynlluniau tai gwarchod
  • “Rhaglen Hirdymor o fuddsoddi yn ein cynlluniau tai gwarchod”

Wrth i boblogaeth Wrecsam barhau i dyfu a, yn unol â gweddill y wlad, mae nifer y bobl hŷn yn cynyddu bydd mwy o alw am dai gwarchod.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Ar hyn o bryd mae 656 uned o lety gwarchod o fewn 22 cynllun tai gwarchod ar wahân. Mae hyn yn 6% o gyfanswm ein stoc.

Adeiladwyd mwyafrif y stoc tai gwarchod yn y 1960au a’r 70au ac yn cynnwys cymysgedd o fflatiau un ystafell a fflatiau bychain.

Rydym wedi edrych yn ofalus ar y stoc hon a bellach mae gennym yr wybodaeth angenrheidiol am ei ddyfodol hirdymor a faint o fuddsoddiad sydd ei angen i ailfodelu’r cynlluniau i fodloni anghenion y dyfodol.

Ailfodelu’r cynlluniau tai gwarchod

Cafodd y buddsoddi cyfalaf sydd ei angen i ailfodelu’r cynlluniau tai gwarchod ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol ac mae rhaglen sylweddol wedi cychwyn a fydd yn cynyddu safonau maint y fflatiau, gwella safonau arbed ynni’r cynlluniau a moderneiddio’r ardaloedd cymunedol.

Penodwyd Ellis Williams Architects i ddylunio a rheoli ailfodelu dau gynllun gwarchod yn Llys y Mynydd, Rhos a Thir y Capel, Llai. Mae’r ddau gynllun yn cynnwys llety un ystafell wely bychan nad yw’n cyrraedd dyheadau nifer o bobl hŷn o ran dyluniad, lle, hygyrchedd ac arbed ynni.

Llys y Mynydd a Thir y Capel

sheltered housing
sheltered housing

Mae’r holl denantiaid yn y cynlluniau hyn wedi eu hysbysu yn llwyr ynglŷn â’r cynlluniau ac wedi eu sicrhau y bydd unrhyw symudiad er mwyn sicrhau bod y gwaith gwella yn digwydd yn sydyn ac yn effeithlon a bydd yn cymryd ystyriaeth o’u dymuniadau.

Ni fydd unrhyw gostau iddynt yn ystod y broses ac wrth gwrs byddant yn gallu dychwelyd i’w cartrefi pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

“Rhaglen Hirdymor o fuddsoddi yn ein cynlluniau tai gwarchod”

Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi ymrwymo i gyflawni gwaith ailfodelu ac adnewyddu ar ein cynlluniau tai gwarchod ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. Bydd y rhaglen hirdymor hon o fuddsoddi yn ein cynlluniau tai gwarchod yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.”

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Easter in Wrexham Cadwch y dyddiad yn rhydd – Helfa Wyau Pasg Mawr
Erthygl nesaf LED upgrade at school’s dual-use sports centre is de-LIGHT-ful Taflu goleuni ar welliannau i ganolfan chwaraeon defnydd deuol Ysgol Rhiwabon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English