Y mis hwn (Gorffennaf 2022), bydd yn 20 mlynedd ers sefydlu gwasanaeth casglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd yn Wrecsam.
Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf rydym wedi dod yn bell i gyrraedd y pwynt lle mae’r rhan fwyaf o’n preswylwyr bellach yn cymryd rhan yn y cynllun ailgylchu, a byddwn yn dathlu’r pen-blwydd arbennig gyda nifer o heriau dros y misoedd nesaf yn ymwneud ag ailgylchu.
Gwyliwch am #Wrecsgylchu20 ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am ein dathliadau diweddaraf!
Ond mae’r 20 mlynedd hefyd yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar sut mae yna lawer mwy i’w wneud, os ydym wirioneddol am chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd byd-eang.
Un o’r deilliannau y cytunwyd arnynt o Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow (COP26) oedd i wledydd gyflymu eu camau yn erbyn yr argyfwng ac rydym angen i bawb yn Wrecsam ein helpu i wneud yn well.
“Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i gefnogi pobl”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae 20 mlynedd yn garreg filltir o bwys, ac rydym eisiau diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed yn y gwasanaeth ailgylchu dros y blynyddoedd. Roedd y gyfradd ailgylchu gyntaf a gofnodwyd yn 3.75% yn 2022, ac roedd y ffigwr blynyddol diweddaraf yn 67.94%, sy’n dangos faint mae’r gwasanaeth wedi datblygu dros amser.
“Mae llawer o bobl sy’n byw yn Wrecsam wedi croesawu ailgylchu fel rhan o’u harferion dyddiol i’n cael i’r lle rydym wedi cyrraedd, ond rydym yn gwybod bod yna lawer o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a bod gwastraff bwyd yn mynd i’r biniau sbwriel cyffredinol.
“Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i gefnogi pobl i ailgylchu’n well, drwy addysg a’r gwasanaethau ailgylchu rydym yn eu darparu, ond rydym angen iddynt weithio gyda ni ac ailgylchu cymaint ag y gallan nhw.
“Ein neges i breswylwyr yw y dylem fod yn falch o ba mor bell rydym wedi dod, ond rŵan beth am fwrw ati i wneud hyd yn oed yn well? Mae cydnabod ein bod mewn argyfwng hinsawdd yn fan dechrau i newid ein harferion ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn cefnogi hyn.”
Gallwch ddarllen mwy ar COP26 yma: https://www.un.org/en/climatechange/cop26
20 her i ddathlu 20 mlynedd
Fel rhan o’n dathliadau 20 mlynedd o ailgylchu, dros y 12 mis nesaf byddwn yn gweithio gyda nifer o Eco-Gynghorau yn ysgolion Wrecsam.
Byddwn yn gosod ugain her i ddathlu 20 mlynedd o gasglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd yn Wrecsam, a fydd yn dechrau ym mis Medi! Os ydych yn athro/athrawes, ac mae gan eich ysgol ddiddordeb ymuno â’r her, gellwch gofrestru eich diddordeb drwy e-bostio a Wrexcycle20@wrexham.gov.uk
Bydd yr heriau’n ymwneud â themâu fel lleihau’r defnydd o blastig untro, ailgylchu, compostio ac eco-lapio.
Sut mae ailgylchu wedi cynyddu dros amser
Fel y crybwyllodd y Cynghorydd Jones, yn 2002, ein ffigwr ailgylchu cyntaf oedd 3.75%, a gynyddodd y flwyddyn ganlynol i 10.51%.
Parhaodd ein ffigyrau ailgylchu i godi’n gyson dros y blynyddoedd wedyn gan gyrraedd 18.41% yn 2006, cyn y daeth cynnydd mawr yn 2007 pan gyrhaeddwyd 30.09%.
Yn 2010 pasiwyd y nod 40% (41.86%), ac yn 2013 aethom yn uwch na 50% (52.83%).
Pasiwyd 60% yn 2016 (62.29%), ac mae’r ffigwr blynyddol diweddaraf, 2022, yn 67.94%, sy’n cyfeirio at y cyfnod Ebrill 2021 i Ebrill 2022.
Cerrig milltir ailgylchu
Ar 1 Gorffennaf 2002, treialwyd ein cynllun cyntaf o gasglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd a gwastraff gardd gydag oddeutu 6,000 o eiddo yn Wrecsam. Pwy sy’n cofio’r sachau pinc a gwyrdd a ddefnyddiwyd gyntaf gennym ar gyfer ailgylchu? Roedd y sachau pinc ar gyfer deunyddiau plastig, caniau a thuniau, a’r sachau gwyrddion ar gyfer papur.
Efallai eich bod hefyd yn cofio bachgen penfelyn yn ei arddegau, yn gwisgo cap tu ôl ymlaen, a oedd yn ganolog i hyn…
Ia, ‘Ailgylchu gyda Michael’ oedd ein brand ailgylchu cyntaf. Byddwn yn rhoi blog arall i chi am Michael yn y dyddiau nesaf, felly cadwch olwg amdano.
Ym mis Medi 2004 agorodd Canolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, sef y fwyaf o’r tair canolfan ailgylchu sydd yn Wrecsam bellach. Mae’r ddwy arall ym Mrymbo ac ym Mhlas Madoc.
Erbyn 2007, roeddem wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r sachau pinc a gwyrdd gwreiddiol, ac roeddynt wedi eu disodli gan y bocsys gwyrddion a’r sachau gwyrddion ar gyfer casglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd (gweler isod). Erbyn diwedd y flwyddyn honno, roedd bron pob aelwyd yn gallu ailgylchu caniau, poteli plastig, gwydr a phapur o’u cartrefi, yn ogystal â gwastraff gardd.
Agorwyd Parc Ailgylchu Wrecsam ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ym mis Ebrill 2009 fel rhan o gontract Cynllun Ariannu Preifat 25 mlynedd gyda FCC Environment. Mae’r safle’n cynnwys Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau, Uned Compostio Mewn Cynhwysydd, Ystafell Addysg a Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff.
Hefyd yn 2009, buom yn treialu’r defnydd o sachau gleision i 6,000 o aelwydydd, a fyddai’n disodli’r sachau ailgylchu gwyrddion ar gyfer papur. Roedd y sachau gleision newydd ar gyfer ailgylchu papur, ond gallai preswylwyr ailgylchu cardfwrdd yn eu sach hefyd. Roedd y treial yn llwyddiant ac rydym yn dal i ddefnyddio’r sachau gleision hyd heddiw.
Yn yr un flwyddyn, cyflwynwyd cadis cegin gennym am y tro cyntaf, fel y gallai preswylwyr ailgylchu eu gwastraff bwyd. Gallai’r preswylwyr drosglwyddo’r gwastraff o’u cadi cegin i’w bin gwastraff gardd. Gellid rhoi cardfwrdd gwrymiog hefyd yn y bin gyda gwastraff gardd yn y cyfnod hwn.
Yn 2015 agorodd y Safle Triniaeth Fiolegol Fecanyddol newydd ym Mharc Ailgylchu Wrecsam er mwyn adfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu o’r gwastraff cyffredinol a chynhyrchu tanwydd yn deillio o sbwriel o wastraff gweddilliol yr aelwyd.
Roedd 2016 yn flwyddyn brysur – yn gyntaf, rhoddwyd 13,000 troli bocsys i breswylwyr mewn ardaloedd penodol o Wrecsam. Yn ogystal, gorffennwyd y gwaith o gyflwyno’r cadis bwyd ledled y sir fel bod un ym mhob tŷ.
Yn 2016 hefyd rhoddwyd 47,000 o focsys duon i breswylwyr er mwyn iddynt allu ailgylchu gwydr wrth ymyl y ffordd. Ac erbyn y flwyddyn honno, gallai preswylwyr roi potiau, tybiau a hambyrddau plastig wrth ymyl y ffordd i’w hailgylchu.
Agorodd siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos ym mis Tachwedd 2016, wedi ei lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn. Mae’n dal i fod yno – galwch heibio i gael cip ar y lle, mae yno ddigon o fargeinion.
Yn 2017, cawsom gyllid ar gyfer 3,500 troli bocsys arall, a roddwyd i rai o’r preswylwyr.
Yn 2018 dechreuasom gynnig bagiau am ddim ar gyfer cadis fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu. Cofiwch, os ydych angen rholyn newydd, clymwch un o’r bagiau i ddolen eich cadi ar y diwrnod casglu, a bydd y criw’n gadael rholyn i chi am ddim. Gellwch hefyd gasglu bagiau am ddim o nifer o leoliadau yn Wrecsam.
Yn 2018, cawsom gyllid ar gyfer 3,000 troli bocsys arall, a roddwyd i rai o’r preswylwyr.
Wel, wnaethoch chi fwynhau hel atgofion efo ni? Os y gwnaethoch, cofiwch y bydd ein blog ‘Ailgylchu gyda Michael’ yn ymddangos yn y diwrnodau nesaf!
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR