Tŷ Pawb oedd y lle i fod ar gyfer teuluoedd yr wythnos diwethaf wrth i gannoedd o blant fwynhau gŵyl weithgareddau wythnos o hyd.

Mae poblogrwydd Tŷ Pawb fel cyrchfan i deuluoedd wedi tyfu a thyfu ers iddo agor yn ôl ym 2018 ac roedd y galw yn uwch nag erioed yr wythnos diwethaf gyda phob digwyddiad â thocyn wedi’i werthu allan.

Mynychodd 540 o blant ac oedolion ystod o weithgareddau trwy gydol yr wythnos a oedd yn cynnwys Gwneud Eich Fideo Cerddoriaeth eich hun, Disgo Unicorn, Picnic Tedi Bêrs a ‘sesiwn sgriblo’ enfawr!

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Beth ddywedodd y teuluoedd

“Dewis mor wych o grefftau ac amgylchedd hamddenol.”

“Roeddem yn hoffi’r rhyddid i fod yn greadigol a’r holl adnoddau sydd ar gael.”

“Roedd fy merch wrth ei bodd â’r celf a chrefft y bore yma! Lle gwych i’r rhai bach ddangos ochr greadigol.”

“Awyrgylch hyfryd, siopa a chinio heddiw.”

“Lle gwych. Caru dod yma.”

Mwy o hwyl i ddod

Mae Tŷ Pawb yn cynnal gweithgareddau teuluol trwy gydol y flwyddyn. Gan gynnwys dau glwb celf bob dydd Sadwrn!

Edrychwch ar eu tudalen digwyddiadau facebook i weld eu holl ddigwyddiadau sydd ar ddod.

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb