Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arweinwyr Cynghorau Gogledd Cymru mewn Cyfarfod Hanesyddol gyda Chabinet Llywodraeth Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Arweinwyr Cynghorau Gogledd Cymru mewn Cyfarfod Hanesyddol gyda Chabinet Llywodraeth Cymru
Arall

Arweinwyr Cynghorau Gogledd Cymru mewn Cyfarfod Hanesyddol gyda Chabinet Llywodraeth Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 24, 2020 4:15 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Council Leaders
Conwy Llandudno Junction Welsh Government Building WAG Llandudno
RHANNU

Mae Arweinwyr y Chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru wedi cael cyfarfod gyda Phwyllgor Cabinet Llywodraeth Cymru ar Ogledd Cymru a gadeirir gan Ken Skates AC, Gweinidog Gogledd Cymru.

Cynhaliwyd y cyfarfod yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ac yn bresennol roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, Vaughan Gething AC, (Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol), Lesley Griffiths AC (Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig) a Hannah Blythyn AC (Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol). Ymunodd cynrychiolwyr Gweinidogion eraill yn y cyfarfod drwy fideo-gynadledda o Gaerdydd.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a Chadeirydd Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru:

“Y cyfarfod hwn rhwng Arweinwyr y Cynghorau a Chabinet Cymru, a drefnwyd gan Weinidog Gogledd Cymru, Ken Skates AC, oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Drwy’r ymgynulliad hwn o bobl crëwyd darn bach o Hanes Cymru.

“Roedd y cyfarfod yn ganlyniad i ymgysylltiad cyson a chadarnhaol gyda Ken Skates fel Gweinidog Gogledd Cymru. Rydym yn gobeithio y byddwn yn parhau i gyfarfod â’r Pwyllgor Cabinet gan ddatblygu pwrpas cyffredin er lles cymunedau Gogledd Cymru.

“Cawsom drafodaeth agored, onest ac eang am gyfleoedd a heriau strategol, allweddol a mwy o gyllid ar gyfer Gogledd Cymru. Y prif bwnc dan drafodaeth oedd yr economi a chludiant gyda’r nod o alluogi gweithio agosach rhwng Llywodraeth Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Awdurdodau Lleol. Fe wnaethom hefyd drafod Iechyd, Cyllid Llywodraeth Leol a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol arfaethedig”.

Dywedodd Ken Skates AC, Gweinidog Gogledd Cymru:

“Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Gogledd Cymru, ynghyd â’n partneriaid rhanbarthol ehangach, yn cydweithio’n agos i wella economi a lles y rhanbarth. Rydym yn wynebu llawer o heriau ar ôl deng mlynedd o gyni wedi’i orfodi gan Lywodraeth y DU, ond mae llawer i fod yn bositif yn ei gylch hefyd gyda datblygiad Bargen Twf Gogledd Cymru a phrosiectau cyffrous ar draws Gogledd Cymru, megis AMRC Cymru ym Mrychdyn ac M-SParc yng Ngaerwen. Drwy gydweithio gallwn gyflawni llawer, ac mae llawer i’w wneud, yn cynnwys ymateb i’r her o ddadgarboneiddio’r economi a chludiant a mynd i’r afael â’r anawsterau y mae llawer o’n cymunedau gwledig a threfol yn eu hwynebu. Rwy’n falch iawn o fod wedi cynnal y cyfarfod Pwyllgor Cabinet cadarnhaol hwn gydag arweinwyr awdurdodau lleol, sy’n brawf o’n hymrwymiad ni fel Llywodraeth i Ogledd Cymru.”

Dywedodd Gweinidog Cymru, Mark Drakeford wrth Arweinwyr y Cynghorau bod gan y Cabinet hyder yng ngallu Cynghorau Gogledd Cymru i weithio ar y cyd â phartneriaid rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. Diolchodd i’r arweinwyr am eu trafodaeth gytbwys a’u hawgrymiadau ymarferol a gofynnodd iddynt ddiolch ar ei ran i staff y Cynghorau a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi gweithio mor galed dros fisoedd heriol y gaeaf i ofalu am bobl yn yr ysbyty ac mewn gofal cymdeithasol. Mae’r Cabinet yn wirioneddol werthfawrogi eu gwaith caled.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cerddoriaeth, unicornau a 'sesiwn scriblo' - Cannoedd wedi mwynhau digwyddiadau hanner tymor yn Tŷ Pawb Cerddoriaeth, unicornau a ‘sesiwn scriblo’ – Cannoedd wedi mwynhau digwyddiadau hanner tymor yn Tŷ Pawb
Erthygl nesaf A483 Rossett to Gresford Gwaith ffordd o ddydd Llun ar Ffordd Gyswllt Llan-y-Pwll

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English