Mae pobl ifanc wedi bod ar y llain 3G newydd yn Ysgol Clywedog i roi cynnig ar y cyfleuster newydd anhygoel eu hunain.
Yn ymuno â nhw oedd Elise Hughes, chwaraewr Rhyngwladol Cymru ac Everton, sydd yn Wrecsam yn paratoi ar gyfer gêm ryngwladol Merched yn erbyn Estonia ar y Cae Ras heno.
Bydd y cyfleuster deuddiben yn cael ei reoli gan Freedom Leisure sy’n golygu y bydd y llain ar gael ar benwythnos a’r tu allan i oriau’r ysgol i glybiau a chwaraewyr ei ddefnyddio.
Mae llain 3G Clywedog yn ategu at gyfleusterau eraill yn Wrecsam
Dywedodd Ian Bancroft y Prif Weithredwr: “Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect hwn. Mae’r llain hwn yn ategu at y cyfleusterau sydd gennym yn y Waun,Ysgol Morgan Llwyd a Queensway. Rydym yn rhoi llawer o ymdrech ac adnoddau i wella pêl-droed ar lefel sylfaenol ar draws Wrecsam a thrwy weithio gyda phartneriaid fel Freedom Leisure a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym bellach yn darparu canlyniadau anhygoel. Rydym yn bwriadu cael lleiniau 3G ym mhob un o’n ysgolion uwchradd fydd ar gael i’r gymuned eu defnyddio.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chadeirydd y grŵp Canolbwynt Pêl-droed: “Mae’n wych gweld cyfleusterau o’r fath yn agor o amgylch y sir i bobl ifanc fanteisio arnynt. Rydym yn gobeithio ehangu’r cyfleusterau hyn yn y misoedd i ddod i gefnogi pêl-droed ymhellach yn Wrecsam – cartref ysbrydol pêl-droed.”
Cafodd y cyfleuster gyda llifoleuadau ei ddarparu dwy flynedd o flaen amser diolch i’r arian cyfalaf a sicrhawyd gan Gyngor Wrecsam.
Os oes diddordeb gennych i archebu, cysylltwch â Chanolfan Weithgareddau a Hamdden Clywedog ar 01978 262787 neu anfonwch e-bost i neu ewch i wefan Freedom Leisure.
Mae brwdfrydedd yn parhau dros bêl-droed yn Wrecsam. Mae’n ganolbwynt y gymuned ac mae Wrecsam yn cael ei ystyried yn gartref ysbrydol Pêl-droed. Mae gennym y stadiwm pêl-droed hynaf yn y byd yn y Cae Ras, cartref AFC Wrecsam ac mae cynlluniau cyffrous wedi eu cyhoeddi ar gyfer ailddatblygu pen Kop y stadiwm i wneud defnydd rhyngwladol ohono unwaith eto.
Mae yna hefyd gynlluniau i Amgueddfa Bêl-droed Cymru gael ei lleoli yn Amgueddfa Wrecsam.
Gallwch ddarllen mwy am y rhain yma.
Porth Wrecsam – gweledigaeth ar gyfer ardal Ffordd yr Wyddgrug yn symud ymlaen
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.>
RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button