Bydd Tŷ Pawb yn cynnal gosodiad bach #40ThousandStrong Help for Heroes yfory.
Lansiwyd ymgyrch #40ThousandStrong y llynedd, a’r nod yw tynnu sylw at y nifer o ddynion a merched sydd wedi eu rhyddhau o’n Lluoedd Arfog ar sail feddygol yn yr 20 mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn ceisio gwella bywydau’r dynion a’r merched hynny a effeithiwyd gan salwch neu anafiadau.
Mae digwyddiad ysgogi Wrecsam hefyd yn gyfle i gwrdd â thîm Adferiad Cymunedol Help for Heroes – Cyswllt Clinigol Cyn-filwyr yr elusen, gweithiwr 1 i 1, Cydlynydd Adferiad drwy Chwaraeon a Chydlynydd Cymrodoriaeth BoB / BoS.
Gallwch wybod am y canolbwynt Help for Heroes misol sy’n cael ei gynnal gyda gwirfoddolwyr Models for Heroes yng Nghanolbwynt VC yn Shotton, neu ddysgu am rai o’r gweithgareddau ystyriol o deuluoedd sy’n cael eu cynnal ar draws Gymru ac yn Henffordd dros y misoedd nesaf.
Bydd y Cyn-filwr ac enillydd medal yng Ngemau Invictus, Allie McClellan yno, yn rhannu hanes ei rhyddhad meddygol ac yn siarad am rym chwaraeon yn ei thaith hyd adferiad, ac ôl strôc a ddaeth a diwedd i’w gyrfa feddygol. Bydd hi’n ceisio cwblhau her feicio epig, y pellter o’i chartref yng Nghymru, i Sydney, lle newidiodd ei bywyd am byth yn y Gemau yn 2018.
Mae croeso i bawb i fynd i Tŷ Pawb i wybod mwy am y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig gan Help for Heroes, a dangos eich cefnogaeth i Allie wrth iddi bedalu’r holl filltiroedd ar ei beic statig, a chodi arian ar gyfer Help for Heroes, Y Lleng Brydeinig Frenhinol, a Chanolfan Gancr Velindre wrth iddi fynd yn ei blaen.
“Cynhelir y digwyddiad #49ThousandStrong ddydd Sul, 15 Chwefror rhwng 10am a 2pm”
You can find out more about the #40ThousandStrong campaign and how Help for Heroes offer support and help to some of the #40ThousandStrong on their website.
https://www.helpforheroes.org.uk/
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN