Get vaccinated

Erbyn hyn, Wrecsam sydd â’r ail gyfradd uchaf o Coronafeirws yng Nghymru, ac mae’r amrywiolyn Delta yn ymledu’n gyflym.

Mae nifer yr achosion mewn ysbytai yn parhau’n isel ar hyn o bryd (ychydig o newyddion da), ond yn sgil yr holl aflonyddwch â ddaw trwy orfod hunan-ynysu, nid yw’r sefyllfa’n wych.

Mae llawer o bobl yn cael eu heffeithio, yn cynnwys plant ysgol, ac mae ein bywydau o ddydd i ddydd dal yn llawn cymhlethdodau.

Mae pob diwrnod yr un fath ac yn ailadroddus, a’r unig ffordd allan o hyn – unwaith ac am byth – yw brechu cymaint o bobl ag sy’n bosibl, cyn gynted ag sy’n bosibl.

Os ydych chi’n gymwys, mae hynny’n eich cynnwys chi.

Rydych angen dau ddos i gael yr amddiffyniad gorau, ac os nad ydych chi wedi cael dau ddos eto, peidiwch ag oedi.

Trefnwch un cyn gynted â phosibl. Mynnwch frechlyn.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Trefnu apwyntiad

Os nad ydych chi wedi cael y ddau ddos eto, mae yna sawl ffyrdd y gallwch gael apwyntiad…does dim rhaid i chi aros nes eich bod yn cael gwahoddiad.

Trefnu ar-lein

Gallwch bellach archebu eich apwyntiadau ar gyfer y dos cyntaf a’r ail ddos ar-lein.

Mae miloedd o slotiau newydd yn cael eu hychwanegu drwy’r amser, felly tarwch olwg yn aml.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN

Trefnu dros y ffôn

Mae hi’n haws trefnu ar-lein, ond os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Frechu ar 03000 840004.

Gall y llinellau fod yn brysur iawn, felly byddwch yn amyneddgar.

Clinigau dros-dro

Mae’r GIG yn defnyddio clinigau dros dro yng Ngogledd Cymru. Nid oes angen apwyntiad – cerddwch i mewn a mynnwch frechlyn.

Maent yn cael eu trefnu munud olaf fel rheol ac yn cael eu hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol (cadwch lygad ar ffrwd Twitter y bwrdd iechyd).

Rydych chi’n llai tebygol orfod mynd i’r ysbyty

Yn niweddariad yr wythnos yma gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Rhanbarth:

“Yr hyn rydym ni wedi’i weld hyd yn hyn yw bod un dos yn unig o’r brechlyn yn lleihau’r siawns yn sylweddol bod rhywun yn gorfod mynd i’r ysbyty gyda Covid-19.

“Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod unrhyw un sydd heb achub ar y cyfle i gael eu brechu yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl – yn enwedig gydag amrywiolyn Delta ymledu.

“Mae’r siawns o ddal a gorfod mynd i’r ysbyty gyda Covid-19 yn cael ei leihau mwy na 90% i’r rhai sydd wedi cael y ddau ddos sy’n cael ei argymell.”

Mynd nôl i normal

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:

“Trwy gael eich brechu, nid yn unig rydych chi’n helpu i amddiffyn eich hun a phobl eraill – rydych chi’n helpu Cymru a gweddill y DU i symud i sefyllfa lle mae llai o bobl yn ddifrifol wael, ac y gallwn ni ddysgu i fyw gyda’r feirws.

“Felly hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n anorchfygol, fe ddylech gael y brechlyn cyn gynted â phosibl.

“Os ydym ni eisiau dychwelyd i fywyd mwy normal, a’r brechlyn ydi’r unig ffordd y gallwn ni wneud hynny.”

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN