Iawn. Rydym yn nodi’r hyn sy’n amlwg, ond mae llawer ohonom yn gwneud llawer o bethau ar-lein y dyddiau hyn.
Rydym yn darllen y newyddion. Rydym yn bancio. Rydym yn siopa. Rydym yn gwneud cais am swyddi. Talu ein treth ffordd. Gwylio teledu. Pob un ohonynt ar-lein.
Felly efallai eich bod eisiau gwneud busnes gyda Chyngor Wrecsam ar-lein?
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud trwy ein gwasanaeth Fy Nghyfrif, gan arbed amser ac ymdrech.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
1. Sefydlu debyd uniongyrchol treth y cyngor
Mae’n gyflymach ac yn haws na’i wneud dros y cownter neu’r ffôn (gallwch ei wneud gartref o flaen eich teledu i gychwyn).
Ac ni fydd yn rhaid i chi boeni am anghofio gwneud taliad.
2. Diweddaru eich treth y cyngor os ydych yn newid cyfeiriad
Os ydych yn symud tŷ, yr oll sy’n rhaid i chi wneud yw mewngofnodi a diweddaru eich cofnodion. Dim trafferth.
3. Gwneud cais am eithriad treth y cyngor
Nid ydym am i chi dalu am unrhyw beth na ddylech fod yn ei dalu.
Felly os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys am eithriad treth y cyngor, gwnewch gais ar-lein.
4. Gwneud cais am ad-daliad treth y cyngor
Fel y dywedasom, nid ydym am i chi dalu am unrhyw beth na ddylech ei dalu. 🙂
5. GwelGweld eich bil treth y cyngor
Gwaith papur. Ffeilio. Dim at ddant pawb.
Ond pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif, gallwch gadw golwg ar eich taliadau treth y cyngor heb orfod chwalu trwy focs esgidiau yn llawn biliau a chyfriflenni wedi eu crychu.
Defnyddiwch y rhyngrwyd.
6. Hawlio Budd-dal Tai
Os ydych yn talu rhent ac / neu dreth y cyngor ac yn byw ar incwm isel, efallai bod gennych hawl i Fudd-Dal Tai (sy’n golygu y gallech dalu llai).
Os credwch fod hyn yn gymwys i chi, gwnewch gais ar-lein.
Mae bywyd yn rhy fyr i dreulio amser gwerthfawr ar y ffôn neu’n llenwi ffurflenni papur (munudau na fyddwch chi byth yn eu cael yn ôl).
Felly beth am gofrestru am gyfrif ar-lein gyda Chyngor Wrecsam.
COFRESTRWCH FI