Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sefydlu nodau gyda chynllun ar gyfer Addysg Gymraeg – darllenwch fwy
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sefydlu nodau gyda chynllun ar gyfer Addysg Gymraeg – darllenwch fwy
ArallBusnes ac addysgArallPobl a lle

Sefydlu nodau gyda chynllun ar gyfer Addysg Gymraeg – darllenwch fwy

Diweddarwyd diwethaf: Awst 15, 2017 1:18 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Sefydlu nodau gyda chynllun ar gyfer Addysg Gymraeg – darllenwch fwy
RHANNU

Bydd Cyngor Wrecsam yn dadorchuddio’i nodau i helpu cymaint o bobl â phosibl i fod yn ddwyieithog, gyda’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei drafod yr wythnos nesaf..

Cynnwys
  • “Pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol”
  • “Cefnogi dysgwyr ar bob lefel”

Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlinellu sut y bydd Adran Addysg Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid yn parhau i ateb y saith canlyniad a nodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg Gymraeg.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mae’r saith canlyniad yn ymwneud â meysydd gan gynnwys darpariaeth, safonau Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith gan gynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio‘r Gymraeg yn gymdeithasol, a hyfforddiant a datblygiad y gweithlu.

“Pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol”

Bydd y cynllun yn cael ei drafod gan aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn eu cyfarfod misol ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf.

Pan fydd wedi’i gymeradwyo, gall y cynllun drafft newid yn dilyn adborth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ddogfen pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol, sy’n nodi ein gweledigaeth a’n hamcanion wrth i ni barhau i gyflawni a darparu ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fel y mae’r weledigaeth a amlinellwyd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ei nodi, rydym eisiau i bob plentyn ac unigolyn ifanc i fod yn siaradwyr dwyieithog hyderus drwy ddarpariaeth addysg, ac yn gallu byw, gweithio a chymdeithasu yn gyfforddus drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Ein nod yw cynyddu’r capasiti ar gyfer llefydd cyfrwng Cymraeg yn ein hysgolion, gyda 401 lle ychwanegol i’w datblygu ledled y fwrdeistref sirol.

“Cefnogi dysgwyr ar bob lefel”

“Rydym eisiau cefnogi dysgwyr, ar bob lefel, i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg fel y gallant sgwrsio a gweithio yn ddwyieithog yn hyderus a chyfforddus.

“Mae gwaith ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi’i wneud trwy ymgynghoriad parhaus â nifer o fudd-ddeiliaid a sefydliadau partner, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am y gwaith y maent wedi’i wneud i’w ddrafftio.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ffarwelio â’r ffromlys er mwyn i’r blodau gwyllt brodorol ddychwelyd Ffarwelio â’r ffromlys er mwyn i’r blodau gwyllt brodorol ddychwelyd
Erthygl nesaf Common myths about local government Chwalu 5 myth am gynghorau…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English