Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Allai arolwg o fusnesau hybu ymdrechion i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Allai arolwg o fusnesau hybu ymdrechion i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Pobl a lleY cyngor

Allai arolwg o fusnesau hybu ymdrechion i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 17, 2017 11:05 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham town centre
RHANNU

Gall arolwg o fusnesau lleol fod o gymorth i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Wrecsam.

Mae Cyngor Wrecsam yn cefnogi busnesau ar Ffordd Grosvenor sydd yn awyddus i gynnal arolwg ar sut mae cwmnïau cyfagos yn cael eu heffeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gall y canfyddiadau roi hwb i waith parhaus.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hon yn broblem gymhleth ac nid oes datrysiad hawdd i’w gael.

“Mae’r cyngor yn gweithio’n galed- gyda’r heddlu, GIG, y gwasanaethau brys a’r trydydd sector – i wella’r sefyllfa, ac mae deall safbwynt busnesau lleol yn rhan bwysig iawn o’r gwaith hwnnw.”

“Gobeithiwn y bydd busnesau’n fodlon rhannu eu canfyddiadau â ni ac eisiau gweithio â nhw gymaint â phosib.”

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mater Cymhleth

Mae partneriaeth unigryw, sy’n manteisio ar adnoddau ac arbenigedd o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, eisoes wedi’i sefydlu yn Wrecsam.

Mae’r bartneriaeth o’r farn bod gweithio ar y cyd ag eraill, i gynnig cyfleoedd gwell i unigolion sydd wedi’u heffeithio gan ddigartrefedd ac yn cam-drin sylweddau, yn allweddol.

Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Os allwn fod o gymorth i unigolion i newid eu ffordd o fyw, bydd hynny yn sicr o wella eu sefyllfa – yn ogystal â sefyllfa’r busnesau lleol a’r cyhoedd.

“Mae llawer o ddinasoedd a threfi yn mynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, digartrefedd a cham-drin sylweddau – gan gynnwys ‘sylweddau seicoweithredol newydd’.

“Mae’n rhaid i ni ddarganfod datrysiad sy’n diwallu anghenion pawb – gan gynnwys yr unigolion sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin sylweddau, busnesau lleol a’r cyhoedd.

“Mae’n fater cymhleth iawn ond mae Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r mater hwn.”

“Nid ydym yn anwybyddu’r broblem. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham arts hub Ydych chi wedi pleidleisio eto?
Erthygl nesaf Rydych yn caru cerddoriaeth yn y parc .... nawr byddwch yn ei garu hyd yn oed yn fwy Rydych yn caru cerddoriaeth yn y parc …. nawr byddwch yn ei garu hyd yn oed yn fwy

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English