Efallai y byddwch yn cofio o’n herthygl newyddion blaenorol y bod Cyngor Wrecsam yn sefydlu Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd.
I ddechrau, bydd yr ysgol yn rhannu safle Ysgol Hafod y Wern ar Ffordd Deva, Wrecsam dros dro o fis Medi 2019 …cyn symud i’r safle Ysgol Parc Borras.
Rydym nawr yn ceisio enwebiadau gan lywodraethwyr profiadol sydd â diddordeb mewn eistedd ar y corff llywodraethu dros dro.
Mae hon yn swydd hynnod bwysig ac – os ydych chi’n credu bod gennych yr ymrwymiad a’r sgiliau – hoffem glywed gennych.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch y llythyr hwn gan ein Pennaeth Addysg, Ian Roberts…
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://news.wrexham.gov.uk/wp-content/uploads/2018/10/Temporary-Governing-Body-Letter-Application.pdf”]LAWRLWYTHWCH Y LLYTHYR[/button]