Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhywbeth i gnoi cil drosto…rydym yn gwella am ailgylchu gwastraff bwyd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhywbeth i gnoi cil drosto…rydym yn gwella am ailgylchu gwastraff bwyd
ArallY cyngor

Rhywbeth i gnoi cil drosto…rydym yn gwella am ailgylchu gwastraff bwyd

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 1, 2019 1:48 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Rhywbeth i gnoi cil drosto...rydym yn gwella am ailgylchu gwastraff bwyd
RHANNU

Efallai eich bod wedi gweld y sticeri ailgylchu newydd yn ymddangos ar rai biniau gwastraff y cartrefi yn Wrecsam.

Cynnwys
  • “Newyddion gwych”
  • Diolch :-)
  • Negeseuon atgoffa biniau

Dyma’r cam nesaf yn ein hymgyrch i fod hyd yn oed yn well am ailgylchu, yn arbennig o ran ailgylchu gwastraff bwyd.

Rhywbeth i gnoi cil drosto...rydym yn gwella am ailgylchu gwastraff bwyd
Rhywbeth i gnoi cil drosto...rydym yn gwella am ailgylchu gwastraff bwyd

Gyda chasgliadau ailgylchu wythnosol o’ch cadi bwyd, bagiau cadi am ddim a hefyd y cadi cegin a’r cadi ymyl palmant am ddim, mae rŵan yn amser gwych i ddechrau ailgylchu gwastraff bwyd, os nad ydych eisoes yn gwneud hynny.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Ers i ni ddechrau cyflwyno’r bagiau cadi am ddim ym mis Hydref, rydym wedi gwella’n raddol, ac ym mis Ionawr 2019 ailgylchom 189.44 tunnell o wastraff bwyd! Mae hyn i’w gymharu â 170.68 tunnell ym mis Ionawr 2018, sy’n dyst i’r cynnydd da rydym wedi’i wneud.

Enghraifft arall o’r cynnydd hwn yw ein bod wedi ailgylchu 610.15 tunnell rhwng mis Hydref 2017 – Ionawr 2018, ac mewn cymhariaeth, ailgylchom 653.72 tunnell rhwng mis Hydref 2018 – Ionawr 2019 (cynnydd o 7%).

Ond rŵan hoffem ni fod yn well fyth, i helpu ni i gyrraedd ein targed ailgylchu o 70% 🙂

Os oes angen cadi bwyd newydd arnoch, gallwch archebu un – AM DDIM – ar ein gwefan.

“Newyddion gwych”

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n newyddion gwych i glywed y ffigyrau ailgylchu bwyd diweddaraf, sy’n dangos fod pobl Wrecsam yn gwneud defnydd o’u bagiau cadi am ddim.

“Mae mwy a mwy o bobl yn dechrau ailgylchu eu gwastraff bwyd, ond rydym yn gwybod y gallwn wneud yn well fyth. Mae nifer o fendithion i ailgylchu eich gwastraff bwyd ac rydym eisiau annog pobl i fanteisio arnynt.”

Yn ogystal â’r bendithion amgylcheddol, drwy ailgylchu eich gwastraff bwyd, rydych hefyd yn rhyddhau gofod gwerthfawr yn eich bin du. Mae hefyd yn eich helpu i stopio’ch biniau rhag arogli o fwyd yn pydru – cofiwch fod eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, nid yw hynny’n wir am eich gwastraff cyffredinol!

Felly carwch eich sbarion bwyd a’u hailgylchu nhw. Cofiwch, rydym hefyd eisiau eich bwyd sydd wedi mynd heibio i’w ddyddiad, felly a wnewch chi ei dynnu o’i becyn yn gyntaf, a’i ailgylchu yn eich cadi.

A chofiwch – os yw eich bagiau cadi yn dechrau mynd yn brin, clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casgliadau ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi…

Neu fel arall, gallwch eu casglu o’n canolfannau ailgylchu… siaradwch ag un o’r gweithwyr a gofynnwch am rolyn newydd.

Diolch 🙂

Diolch i bawb yn y fwrdeistref sirol am ein helpu ni i wella ein ffigyrau ailgylchu bwyd. Mae eich cefnogaeth barhaus i gynllun ailgylchu Wrecsam yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Diolch yn fawr iawn i bobl Wrecsam am ein helpu ni i gyflawni’r ffigyrau hyn. Ac rwy’n sicr y cawn ganlyniadau gwell fyth yn y misoedd i ddod.”

Dewch i helpu Wrecsam i fod y gorau trwy Gymru!

Negeseuon atgoffa biniau

Cofiwch, gallwch hyd yn oed danysgrifio i dderbyn negeseuon atgoffa o ddyddiau casgliadau biniau, sy’n anfon e-bost atoch ddiwrnod cyn y casgliadau bob wythnos.
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i drigolion dros y Nadolig pan mae dyddiadau casgliadau yn gallu newid!

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cerddoriaeth, modelau a choctels. Mae dosbarth celf unigryw yn dod i Tŷ Pawb... Cerddoriaeth, modelau a choctels. Mae dosbarth celf unigryw yn dod i Tŷ Pawb…
Erthygl nesaf Covid-19 scams on your doorstep Peidiwch â chael eich twyllo gan alwyr digroeso

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English