Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwersylloedd digartref ar safleoedd Groves – yr hyn sy’n digwydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwersylloedd digartref ar safleoedd Groves – yr hyn sy’n digwydd
Y cyngor

Gwersylloedd digartref ar safleoedd Groves – yr hyn sy’n digwydd

Diweddarwyd diwethaf: Awst 8, 2017 5:02 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwersylloedd digartref ar safleoedd Groves – yr hyn sy'n digwydd
RHANNU

Efallai y byddwch yn ymwybodol bod gwersyll digartref bychan ar hen safle Groves.

Cynnwys
  • Dyma beth yr ydym am ei wneud…
  • Yr hyn a fydd yn digwydd
  • Cyfrifoldeb i breswylwyr, yr adeilad a’r bobl ar y safle

Os ydych yn byw gerllaw a’ch bod yn pryderu amdano, rydym yn deall hynny’n iawn. Hefyd rydym yn deall anghenion pobl sy’n gwersylla ar y safle, a’r ffaith bod arnom angen diogelu’r adeilad.

Am y tro rydym yn goddef y sefyllfa ar y safle i atal problemau eraill rhag codi mewn ardaloedd eraill. Er bod y safle wedi’i feddiannu, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i geisio rheoli’r sefyllfa i helpu’r unigolion sydd ynghlwm.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Dyma beth yr ydym am ei wneud…

Mae gan Gyngor Wrecsam, yr heddlu, gwasanaethau iechyd a’r sector gwirfoddol gynllun a fydd yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r problemau uniongyrchol.

Yr hyn a fydd yn digwydd

  • Bydd y cyngor yn parhau â phatrolau diogelwch i helpu i gadw’r adeilad cyfagos yn ddiogel.
  •  Bydd yr heddlu yn parhau i ymateb i alwadau, yn patrolio’r perimedr a chysylltu â phreswylwyr lleol.
  • Bydd gweithwyr estyn allan iechyd a thrydydd sector yn ymweld â’r safle saith niwrnod yr wythnos – yn ystod y dydd a chyda’r nos – i geisio ag ymgysylltu â’r bobl sy’n gwersylla yno, a’u hannog i gael cymorth.

Nid yw’n drefniant parhaol, ond bydd yn helpu i sicrhau bod y sefyllfa yn hawdd i’w drin tra bo partneriaid yn gweithio ar ddatrysiad dros yr wythnosau nesaf.

Cyfrifoldeb i breswylwyr, yr adeilad a’r bobl ar y safle

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:

“Rydym eisiau darparu diogelwch i breswylwyr sy’n byw ger Groves, ac mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu’r adeilad.

“Mae’r cyngor a’i bartneriaid hefyd wedi ystyried lles y bobl sy’n byw ar y safle.

“Mae gan y bobl sy’n gwersylla yno gwahanol fathau o broblemau – megis digartrefedd, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl gwael. Ni ellir mynd i afael â’r pethau hyn dros nos.

“Mae eu helpu i newid eu hamgylchiadau yn hanfodol i reoli’r problemau hyn yn Wrecsam. Bydd eu symud hwy ymlaen – heb geisio eu helpu – yn achosi problemau yn rhywle arall.

“Fodd bynnag, rydym angen canfod ffordd well o’u cefnogi mewn amgylchedd mwy addas, gan nad yw’n briodol i bobl wersylla ar y safle.

“Rydym i gyd eisiau gweld datrysiad llwyddiannus.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Pam fod gan aelodau'r grŵp eglwysig cymunedol rheswm ychwanegol i wenu yr haf hwn ... Pam fod gan aelodau’r grŵp eglwysig cymunedol rheswm ychwanegol i wenu yr haf hwn …
Erthygl nesaf book heart 6 pheth anhygoel sydd wedi digwydd mewn llyfrgelloedd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English