Mae yna newyddion gwych i siaradwyr Cymraeg ar ôl derbyn cadarnhad y bydd Archdderwydd Cymru, Myrddin ap Dafydd yn darllen cerddi fel rhan o Ŵyl Lenyddiaeth Carnifal Geiriau eleni.
Daw’r cerddi o’i gasgliad diweddaraf Pentref Du, Pentref Gwyn, teitl y gerdd a ysgrifennodd i Gwyn Thomas.
Myrddin yw Archdderwydd newydd Cymru, a chynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn ei dref enedigol sef Llanrwst.
Caiff y digwyddiad ei gynnal yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, ddydd Mawrth 30 Ebrill, am 7.30pm. Mae tocynnau ar gael o Lyfrgell Wrecsam neu www.wrexham.gov.uk/pay.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]