Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Tŷ Pawb yn cymryd rôl arweiniol mewn sioe gelf fyd-enwog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 8-9 Ionawr
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae Tŷ Pawb yn cymryd rôl arweiniol mewn sioe gelf fyd-enwog
Pobl a lleY cyngor

Mae Tŷ Pawb yn cymryd rôl arweiniol mewn sioe gelf fyd-enwog

Diweddarwyd diwethaf: 2019/05/14 at 10:25 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Mae Tŷ Pawb yn cymryd rôl arweiniol mewn sioe gelf fyd-enwog
'Undo Things Done' (golwg gosod), Santa Maria Ausiliatrice, Fenis 2019. Trwy garedigrwydd Sean Edwards a Tanya Leighton, Berlin. Image Jamie Woodley
RHANNU

Mae arddangosfa celf fwyaf clodfawr y byd yn agor yr wythnos hon – ac mae Tŷ Pawb yn chwarae rôl arweiniol wrth gynnwys celf o Gymru!

Cynnwys
Mae Tŷ Pawb yn gweithio gydag artist blaenllaw CymruRhywbeth newydd sbon i WrecsamCydnabyddiaeth ryngwladol i Tŷ Pawb

Mae La Biennale yn cael ei gynnal yn Venice bob dwy flynedd. Wedi’i sefydlu yn 1895, mae dros 500,000 o ymwelwyr yn dod i’r Biennale, ar draws ei brif safleoedd.

Mae Cymru yn Fenis wedi bod yn rhan o’r marciwr allweddol hwn yn y byd celf ers 2003. Mae’n gyfle i gyflwyno artistiaid mwyaf arwyddocaol ac amserol Cymru i gynulleidfa rhyngwladol.

Llynedd, cyhoeddom y newyddion cyffrous bod Tŷ Pawb wedi cael ei ddewis fel Sefydliad Arweiniol ar gyfer Cymru yn Fenis 2019.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Mae Tŷ Pawb yn gweithio gydag artist blaenllaw Cymru

Mae Sean Edwards yn cynrychioli Cymru yn Fenis eleni. Mae ei gyflwyniad yn La Biennale yn cael ei arwain gan Tŷ Pawb, yn gweithio gyda’r curadur rhyngwladol, Marie-Anne McQuay.

Mae arddangosfa Sean, ‘Undo Things Done’ yn un o’r rhai mwyaf uchelgeisiol ac emosiynol hyd yma; ymholiad barddonol i le, gwleidyddiaeth a dosbarth wedi’i blethu gyda hanesion personol.

Mae cyflwyniad Sean hefyd yn cynnwys drama radio, ‘Refrain’ sydd wedi’i gynhyrchu ar y cyd gyda Theatr Cenedlaethol Cymru, yn cael ei berfformio’n ddyddiol gan mam Sean, ac yn cael ei ddarlledu’n fyw o’i chartref yng Nghaerdydd i arddangosfa Sean yn Biennale Fenis. Bydd Refrain hefyd yn cael ei gyflwyno fel prosiect radio ledled Cymru ym mis Tachwedd gan National Theatre Wales a Tŷ Pawb ym mis olaf y Biennale.

Rhywbeth newydd sbon i Wrecsam

Mae cyfranogiad Tŷ Pawb gyda Chymru yn Fenis yn rhywbeth newydd sbon i Wrecsam, ac yn cynnig cyfle i sefydlu ein hunain yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar gyfer y Celfyddydau.

Fel Sefydliad Arweiniol, rydym yn falch iawn bod arddangosfa Sean yn dod yma i Wrecsam yn 2020 – y cyflwyniad cyntaf yng Nghymru a’r DU. Dyma gam anferthol arall wrth roi Tŷ Pawb a Wrecsam ar fap y celfyddydau rhyngwladol.

Dywedodd Jo Marsh, Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb ac Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’n anrhydedd bod Tŷ Pawb yn cael ei ddewis fel Sefydliad Arweiniol ar gyfer Cymru yn Fenis 2019, dyma gyfle gwych i’r sefydliad, ac i Wrecsam.

“Drwy weithio gyda Sean Edward a Marie-Anne McQuay ar y prosiect anhygoel hwn, byddwn yn chwifio’r faner dros celfyddydau Cymru, a dod â chyhoeddusrwydd rhyngwladol i Wrecsam a Tŷ Pawb.

“Fel sefydliad arweiniol, bydd gan Tŷ Pawb gyfle i siapio darpariaeth yr arddangosfa a’r rhaglen gyhoeddus, gan gadw ein ethos o gynwysoldeb wrth galon popeth.”

Cydnabyddiaeth ryngwladol i Tŷ Pawb

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae codi proffil Tŷ Pawb mor ddiweddar ar ôl ei agor yn bwysig iawn, a chael gosod ein stondin mewn digwyddiad mor glodfawr â Biennale Fenis.

“Hoffwn longyfarch Sean Edward ar ran Wrecsam ar ei arddangosfa unigol gwefreiddiol ar gyfer Cymru yn Fenis eleni. Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd ei waith i Gymru i’w ddangos yn Tŷ Pawb yn 2020.”

Mae’r Biennale yn agor yn swyddogol yr wythnos hon. Bydd cyflwyniad Cymru yn Fenis Sean Edwards yn cael ei arddangos o 11 Mai hyd at 24 Tachwedd; mae eisoes yn tynnu llawer o sylw yn y cyfryngau rhyngwladol. Bendant yn un i’w weld dros y misoedd nesaf!

Gallwch ddilyn Cymru yn Fenis ar y cyfryngau cymdeithasol, i gael y newyddion diweddaraf o weithgareddau dyddiol yr arddangosfa:

Mae Tŷ Pawb yn cymryd rôl arweiniol mewn sioe gelf fyd-enwog

Facebook
Twitter
Instagram

Comisiynwyd Cymru yn Fenis 2019 gan Cyngor y Celfyddydau Cymru.

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/life_events_w/caring/fostering/index.htm”] DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ewch i ddarganfod llwybrau newydd yr haf hwn Ewch i ddarganfod llwybrau newydd yr haf hwn
Erthygl nesaf Children's Services Bwrdd Gweithredol Mis Mai, darllediad o 10am bore heddiw

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg Ionawr 9, 2026
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes

Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Pobl a lleY cyngor

Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr

Ionawr 8, 2026
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam

Ionawr 8, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English