Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad Cymraeg yn dychwelyd yn dilyn llwyddiant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Digwyddiad Cymraeg yn dychwelyd yn dilyn llwyddiant
Pobl a lle

Digwyddiad Cymraeg yn dychwelyd yn dilyn llwyddiant

Diweddarwyd diwethaf: Medi 1, 2017 11:43 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Digwyddiad Cymraeg yn dychwelyd yn dilyn llwyddiant
RHANNU

Bydd digwyddiad cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg yn dychwelyd y flwyddyn nesaf fel rhan o ŵyl gerddorol yn Wrecsam.

Yn dilyn peilot llwyddiannus yn gynharach eleni, mae Cyngor Wrecsam a FOCUS Wales yn falch o gyhoeddi y bydd HWB Cymraeg yn dychwelyd yn 2018.

Wedi’i leoli mewn tipi ar Sgwâr y Frenhines roedd y digwyddiad tridiau gan FOCUS Wales a gynhaliwyd rhwng dydd Iau, 11 Mai a dydd Sadwrn, 13 Mai wedi cynnal nifer o weithgareddau – gan gynnwys gweithdai Cymraeg, sesiynau radio byw a sgyrsiau gan nifer o artistiaid.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Bydd digwyddiad 2018 HWB yn cynnwys digwyddiadau tebyg, gyda rhai enwau mawr yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Meddai Stephen Jones, Cydlynydd y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â FOCUS Wales, Menter Iaith y Fflint a Wrecsam a Choleg Cambria eto i drefnu’r digwyddiad hwn.

“Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i arddangos iaith a diwylliant Cymraeg i 7000 a mwy o bobl sy’n teithio o bell ac agos i fynychu Gŵyl FOCUS Wales pob blwyddyn.

“Hoffem adeiladu ar lwyddiant peilot eleni ac ar gyfer 2018 rydym yn anelu i gynyddu cynnwys y Gymraeg ar draws rhaglen yr ŵyl gyfan.”

“Mae’n bwysig cael digwyddiadau o ansawdd uchel fel hyn ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn y dref felly rydym yn gweithio gyda FOCUS Wales i gynnwys prif artistiaid o Gymru yng ngŵyl y flwyddyn nesaf.

“Bob amser yn chwilio am ffyrdd i hybu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg”

Dywedodd Neal Thompson, un o drefnwyr FOCUS Wales:  “Roedd HWB Cymraeg wedi gweld llwyddiant mawr y llynedd ac rydym yn awyddus iawn i’w weld yn parhau fel rhan o raglen FOCUS Wales ar gyfer 2018.

“Rydym yn bendant yn awyddus i weithio gyda Chyngor Wrecsam i adeiladu ar lwyddiant y llynedd a gweld faint mwy y gallwn ei wthio eleni.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym bob amser yn edrych am fwy o ffyrdd o fewn Cyngor Wrecsam i hybu’r defnydd o’r Gymraeg a’i bwysigrwydd diwylliedig, ac mae FOCUS Wales yn bendant yn cynnig fforwm ardderchog i ni wneud hynny.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i FOCUS Wales am eu cefnogaeth i’n helpu i drefnu HWB Cymraeg ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn dymuno bob llwyddiant i’r digwyddiad.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Café in the Corner – Edrych Ymlaen at Ddyfodol Gwell Café in the Corner – Edrych Ymlaen at Ddyfodol Gwell
Erthygl nesaf “Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg ond alla i ddim mynd dim pellach na ‘Bore da’” – Mae cymorth wrth law! “Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg ond alla i ddim mynd dim pellach na ‘Bore da’” – Mae cymorth wrth law!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English