Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyllid grant poblogaidd yn newid i gefnogi mwy o bobl leol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyllid grant poblogaidd yn newid i gefnogi mwy o bobl leol
ArallPobl a lleY cyngor

Cyllid grant poblogaidd yn newid i gefnogi mwy o bobl leol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 11, 2019 9:56 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Bounce Back Loan
RHANNU

Ydych chi’n sefydliad sy’n gweithio gydag oedolion diamddiffyn, yn grŵp cymunedol sydd eisoes wedi’i sefydlu, neu’n rhywun sydd â syniad da? Os felly, a wyddoch chi fe allech fod yn gymwys am Grant Cynhwysiant Cymunedol?

Cynnwys
  • Pobl hŷn ac oedolion diamddiffyn
  • Mae wedi helpu dros 100 o grwpiau ar draws Wrecsam
  • Cysylltwch â ni

Crëwyd y Grant Cynhwysiant Cymunedol yn 2012 i wella bywydau pobl hŷn sy’n byw yn Wrecsam. Ac oherwydd llwyddiant y grant hwn, mae’r meini prawf cymhwysedd bellach wedi newid i ganiatáu i’r grant gael ei ddefnyddio i gefnogi oedolion gydag anableddau corfforol, synhwyraidd neu ddysgu, yn ogystal ag unigolion â phroblemau iechyd meddwl a gofalwyr.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Pobl hŷn ac oedolion diamddiffyn

Mae’r grant yn cefnogi cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer oedolion ac mae’n galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnodau hwy. Mae cyllid, sydd yn amrywio o £200 – £2,500, ar gael i gefnogi’r gwaith o sefydlu a/neu weithgareddau cynaliadwy sy’n seiliedig yn y gymuned sydd yn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd (gyda ffocws ar ardaloedd gwledig), trwy gefnogi pobl i gynnal neu adennill cysylltiadau cymdeithasol a galluogi pobl i gymryd rhan yn eu cymuned leol.

Nid yn unig y mae ailgysylltu unigolion ynysig ac unig yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau oedolion hŷn a diamddiffyn o ran eu hiechyd a lles emosiynol, ond mae hefyd yn cefnogi’r gymuned trwy gael gafael ar eu cyfalaf economaidd a chymdeithasol.

Mae wedi helpu dros 100 o grwpiau ar draws Wrecsam

Nod y grant yw cefnogi gweithgareddau sy’n seiliedig yn y gymuned a chlybiau cinio. Hyd yn hyn, mae wedi helpu dros 100 o grwpiau ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys grwpiau ymarfer corff, gwylio adar, dosbarthiadau celf, grwpiau ffotograffiaeth a llawer, llawer mwy.

Cysylltwch â ni

Mae ffurflenni cais ar gael ar gais trwy e-bost neu ffôn; mae’r manylion cysylltu isod.

Cysylltwch â’r Tîm Comisiynu, Cyngor Wrecsam ar 01978 292066 i gael sgwrs anffurfiol neu i gael rhagor o wybodaeth.

Mae ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd ar gael trwy anfon e-bost i: commissioning@wrexham.gov.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Partneriaeth rheilffordd gymunedol ar y trywydd iawn ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol Partneriaeth rheilffordd gymunedol ar y trywydd iawn ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol
Erthygl nesaf Newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd Newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English