Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol yn claddu capsiwl amser yn ystod gwaith adeiladu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
COVID-19 and your business: how to get found online
Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG
Busnes ac addysg Digwyddiadau
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgol yn claddu capsiwl amser yn ystod gwaith adeiladu
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Ysgol yn claddu capsiwl amser yn ystod gwaith adeiladu

Diweddarwyd diwethaf: 2019/07/19 at 11:34 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Ysgol yn claddu capsiwl amser yn ystod gwaith adeiladu
RHANNU

Manteisiodd disgyblion un o’n hysgolion cynradd ar y cyfle i guddio ychydig o hanes o dan yr adeilad newydd wrth i waith adeiladu fynd yn ei flaen ar y safle.

Mae’r gwaith o adeiladu estyniad newydd i Ysgol Gynradd Gwersyllt yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd.

Aethom i ymweld â’r ysgol yn hwyr y llynedd wrth i’r cam adeiladu cyntaf ddod i ben, pan wnaeth disgyblion lofnodi un o’r trawstiau dur oedd i gael ei ddefnyddio fel rhan o ffrâm yr adeilad.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

A rŵan, mae’r disgyblion wedi ychwanegu tamaid bach arall o hanes at yr adeilad newydd drwy guddio capsiwl amser o dan y lloriau.

Rhoddodd aelodau o gyngor yr ysgol y capsiwl o dan lawr yr adeilad newydd yn gynharach yr wythnos hon.

Roedd y capsiwl yn cynnwys lluniau o fywyd yn yr ysgol; atgofion wedi’u hysgrifennu gan ddisgyblion, staff a llywodraethwyr; ffeiliau ffeithiau dosbarthiadau a gwybodaeth am weithgareddau dydd i ddydd yr ysgol; cyfweliadau fideo a lluniau a gwaith ysgrifenedig gan y disgyblion.

Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, llywodraethwyr a chyn ddisgybl Ysgol Gynradd Gwersyllt: “Roeddwn i’n falch o nodi – ac mi ddywedais hynny wrth y disgyblion – bod y diwrnod pan gladdwyd y capsiwl amser yn nodi 50 o flynyddoedd ers lansiad Apollo 11 ar ei siwrnai i’r lleuad.

“Roedd hwnnw’n ddiwrnod hanesyddol i’r byd i gyd –  hanner can mlynedd yn ddiweddarach rydym ni, yn ein ffordd ein hunain, yn cofnodi ychydig bach o hanes i Wersyllt.

“Mae’r gwaith ar yr ysgol newydd yn rhagorol ond roeddem yn teimlo y dylai’r disgyblion roi rhywbeth at ei gilydd am orffennol a phresennol yr ysgol, sydd yn awr yn aros i genedlaethau’r dyfodol ddod o hyd iddo.”

Ysgol yn claddu capsiwl amser yn ystod gwaith adeiladu

Nid y capsiwl amser yw’r unig gofnod o hanes yr ysgol sydd wedi’i ychwanegu at yr adeilad newydd.

Mae hen gloch yr ysgol wedi’i harddangos mewn cas gwydr yn un o’r coridorau newydd.

Yn ogystal bydd bwrdd anrhydeddau o’r 1920au sy’n arddangos enwau disgyblion a enillodd ysgoloriaethau a llefydd am ddim i’w weld yn y Maes Dysgu unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Meddai Joel Moore, Pennaeth Ysgol Gynradd Gwersyllt: “Mi wnaeth y plant fwynhau’r cyfle i gofnodi rhywfaint o’u hanes yn fawr iawn ac maen nhw’n gweld y posibilrwydd y bydd y capsiwl amser yn cael ei ddarganfod un diwrnod ac yn rhoi gwybodaeth i genedlaethau’r dyfodol am fywyd yn ein hysgol ni yn gyffrous dros ben.

“Roedd aelodau cyngor yr ysgol yn falch iawn o gael y cyfle i gladdu’r capsiwl ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r contractwyr, Read, am roi amser i ni wneud hynny.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button][button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i fwynhau'r Ffair Dreftadaeth haf yn Amgueddfa Wrecsam Dewch i fwynhau’r Ffair Dreftadaeth haf yn Amgueddfa Wrecsam
Erthygl nesaf green bin Proses ein cyllideb – beth sy’n digwydd nesaf?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 28, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 27, 2026
COVID-19 and your business: how to get found online
Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG
Busnes ac addysg Digwyddiadau Ionawr 27, 2026
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio

Ionawr 28, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
COVID-19 and your business: how to get found online
Busnes ac addysgDigwyddiadau

Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English