Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adnewyddu tocynnau bws. Darganfyddwch sut y gallwch chi helpu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Adnewyddu tocynnau bws. Darganfyddwch sut y gallwch chi helpu
ArallPobl a lle

Adnewyddu tocynnau bws. Darganfyddwch sut y gallwch chi helpu

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 31, 2019 1:23 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Bus pass renewal at your library
RHANNU

Bydd gan nifer ohonoch chi gerdyn teithio rhatach – tocyn bysiau – a byddwch yn gwybod ei bod yn rhaid i chi adnewyddu eich cerdyn erbyn 31 Rhagfyr pan mae eich cerdyn cyfredol yn dod i ben.

Cynnwys
  • “Sut i adnewyddu eich tocyn bysiau ar-lein”
  • “Sut allaf i helpu?”

Yn Wrecsam, mae dros 9,200 o gardiau’n cael eu defnyddio – hynny yw, cardiau sydd wedi’u defnyddio fwy na chwe gwaith yn y tri mis diwethaf, ac mae dros 60% o’r bobl hynny wedi gwneud cais i adnewyddu eu cerdyn.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Er bod hynny’n newyddion gwych, mae dal angen i dros 4,000 wneud cais, ac fe hoffem ni gael eich help chi i sicrhau bod pawb yn gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn.

Os ydych chi’n gwybod am rywun, fel ffrind, rhiant, perthynas neu gymydog sy’n defnyddio tocyn bysiau, gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw’n gwybod bod angen ei adnewyddu. Mae’n hawdd iawn gwneud cais ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu fideo defnyddiol iawn sy’n rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam ar wneud hynny.

Os ydych chi’n cynnal grŵp mae pobl hŷn yn dod iddo, tybed a allech chi sôn am hyn wrthynt a gweld a ydynt angen rhywfaint o help?

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Pan gafodd y broses ymgeisio ei lansio gyntaf, roedd Trafnidiaeth Cymru, sy’n gyfrifol am adnewyddu’r ceisiadau, yn cael problemau efo’u proses ar-lein, ond mae’r rhain bellach wedi cael eu datrys ac mae’r broses yn gweithio’n dda, ac maen nhw’n dal i fyny efo’r ceisiadau. Ond, mae mwy eto sydd angen gwneud cais ac fe fyddwn i’n ymbil arnyn nhw i wneud cais cyn gynted â phosib’ i wneud yn siŵr bod eu cerdyn yn cyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn. Hoffwn hefyd ddefnyddio’r cyfle hwn i ddiolch i staff sydd wedi bod yn helpu gyda’r ceisiadau ar-lein, a rhai sydd hyd yn oed wedi dod i mewn ar ddiwrnodau o wyliau i helpu.”

“Sut i adnewyddu eich tocyn bysiau ar-lein”

Mae Llyfrgell Wrecsam hefyd yn helpu gyda cheisiadau ac mae sesiynau’n cael eu cynnal ar 1, 8, 14, 22 a 29 Tachwedd rhwng 12pm ac 1pm. Ewch â’ch tocyn bysiau cyfredol a’ch rhif yswiriant gwladol gyda chi.

“Sut allaf i helpu?”

Er bod nifer o bobl hŷn yn gwbl gyfarwydd â defnyddio llechen, cyfrifiadur neu ffôn, nid pawb sy’n gallu.

Felly, allech chi helpu rhywun rydych chi’n ei adnabod i wneud cais ar-lein gan ddefnyddio eich teclyn chi? Mae’n broses sydyn iawn a gall arbed poen meddwl i rywun sydd ddim yn gallu mynd ar y we. Y cyfan sydd ei angen yw rhif eu cerdyn cyfredol a’u rhif yswiriant gwladol.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Er bod copïau papur ar gael, mae hi’n llawer cynt a rhatach cwblhau’r broses ar-lein. Os gallwn ni dreulio munud yn meddwl am rywun y gallwn ni eu helpu a chynnig yr help hwnnw iddyn nhw, dwi’n siŵr y byddent yn gwerthfawrogi’n fawr.”

Bydd cardiau sy’n mynd ar goll, yn cael eu dwyn, neu’n cael eu difrodi’n cael eu trin fel yr arfer yn swyddfa Galw Wrecsam ar Stryt yr Arglwydd am gost o £5 i gael un newydd.

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Llunio dyfodol ein llyfrgelloedd - peidiwch â cholli'r cyfle i ddweud eich dweud Llunio dyfodol ein llyfrgelloedd – peidiwch â cholli’r cyfle i ddweud eich dweud
Erthygl nesaf Gwersyllt Sicrhewch y gallwch chi bleidleisio ar 12 Rhagfyr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English