Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi wedi bod yn pendroni erioed beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu? Dysgwch fwy yma
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi wedi bod yn pendroni erioed beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu? Dysgwch fwy yma
Pobl a lleY cyngor

Ydych chi wedi bod yn pendroni erioed beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu? Dysgwch fwy yma

Diweddarwyd diwethaf: Medi 22, 2017 12:00 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Ydych chi wedi bod yn pendroni erioed beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu? Dysgwch fwy yma
RHANNU

Does dim llawer o amser wedi mynd heibio ers yr Etholiadau Lleol ym Mai—pan aeth pobl Wrecsam ati i fwrw dros 37,523 o bleidleisiau ar gyfer y Cyngor presennol – ac wrth i bobl fynd yn ôl nawr i’r gwaith ar ôl gwyliau’r haf, mae’n bosib bod nifer o breswylwyr yn cadw golwg fanwl ar eu haelodau lleol a etholwyd yn ddiweddar wrth iddynt ddechrau cymryd mwy o ran ym musnes y Cyngor.

Ond nid llawer o bobl sy’n gwybod, y tu hwnt i’r dyletswyddau sylfaenol, beth a ddisgwylir o rôl cynghorydd – yn gryno, beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu.

Daw rôl cynghorwyr yn gynyddol amrywiol a chymhleth, gyda’r hen ddelwedd ystrydebol o gynghorwyr yn eistedd mewn llu o gyfarfodydd yn prysur ddyddio gan fod newidiadau wedi dod i rym yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Nid yw’r hen elfennau sylfaenol wedi newid – bydd cynghorwyr yn rhan o fywyd cymunedol, yn ymgyfarwyddo eu hunain gyda materion lleol pwysig a phryderon, a chynrychioli eu hetholaeth i’r Cyngor.

Yn ogystal â chynrychioli’r pryderon neu faterion a godwyd gan bobl yn byw yn eu wardiau penodol i Gyngor Wrecsam neu asiantaethau eraill, bydd cynghorwyr hefyd yn eistedd ar rai pwyllgorau fel aelodau, fel y Bwrdd Gweithredol, Pwyllgor Craffu, Pwyllgor Cynllunio neu – fel y byddech yn ei ddisgwyl – y Cyngor llawn ei hun.

A dyw hynny ddim yn cynnwys rhai ymrwymiadau lleol eraill ar gyrff allanol y gallant benderfynu eu cymryd y tu hwnt i’w rôl ar Gyngor Wrecsam, all gynnwys bod yn llywodraethwr mewn ysgol leol, eistedd ar eu Cyngor Cymuned lleol neu ymwneud â grwpiau yn eu hardal, all fod yn amrywio o glybiau chwaraeon i reoli cyfleusterau fel neuaddau pentref.

Fe allant hyd yn oed gynrychioli eu cyngor ar gyrff rhanbarthol mwy, fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru neu Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ayb.

Rôl eang

Mae peth dadlau wedi bod yn ddiweddar ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â phresenoldeb cynghorwyr mewn cyfarfodydd fel y Bwrdd Gweithredol a prun ai a oes disgwyl i gynghorwyr fynychu holl gyfarfodydd y pwyllgorau o dan y rheolau ai peidio.

Yn y gorffennol roedd cynghorwyr yn cael lwfans wedi ei seilio ar bresenoldeb mewn pwyllgorau, ond roedd hyn yn golygu nad oeddent yn derbyn unrhyw dâl am y gwaith yr oeddent yn ei wneud yn eu wardiau ac ar gyrff eraill.

Mae’r rheolau bellach wedi newid, ac mae cynghorwyr nawr yn derbyn math o gyflog, sy’n ystyried y nifer debygol o gyfarfodydd y byddant yn eu mynychu, ond nid yw’n ddibynnol ar fynychu fel y cyfryw.

Y rôl bwysicaf y dyddiau hyn yw i aelodau weithredu fel arweinwyr cymunedol, eiriolwyr a hyrwyddwyr, ac mae’r rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn cael ei wneud y tu allan i Siambr y Cyngor.

Wrth gwrs os yw aelodau’n teimlo nad oes ganddynt amser i fynychu cyfarfodydd y pwyllgorau ac eithrio’r rhai y maent wedi eu penodi ar eu cyfer, yna mae croeso iddynt fynychu’r holl gyfarfodydd y gallant – ond bydd gan y rhan fwyaf o gynghorwyr amrywiaeth o ddyletswyddau eraill, gan gynnwys gweithio i ennill bywoliaeth, ac mae’n bosib na allant fynychu’r holl gyfarfodydd bob amser.

Os yw cynghorydd yn aelod o bwyllgor penodol, fel y Pwyllgor Cynllunio, Bwrdd Gweithredol, neu unrhyw un o’n Pwyllgorau Craffu, yna bydd disgwyl iddynt fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o’r fath a bydd disgwyl iddynt ymddiheuro os na allant fod yn bresennol – ac mae hynny’n cynnwys y Cyngor llawn ei hun.

Hefyd mae gan rai cynghorwyr waith rhan amser neu efallai waith llawn amser hyd yn oed sydd y tu hwnt i’w rôl, sydd wrth gwrs yn golygu mwy o ymrwymiadau o ran eu hamser, a bydd gan nifer hefyd gyfrifoldebau gofalu am deulu.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Etholir aelodau i gynrychioli eu cymunedau lleol, ac yn ei gyflawnder, mae’r rôl yn un bob awr o bob dydd, trwy’r flwyddyn.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwaith ar gyfleusterau newydd “gwych” y Byd Dŵr wedi ei orffen Gwaith ar gyfleusterau newydd “gwych” y Byd Dŵr wedi ei orffen
Erthygl nesaf y gymuned a ddaeth ynghyd i lanhau y gymuned a ddaeth ynghyd i lanhau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English