Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen y gymuned a ddaeth ynghyd i lanhau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > y gymuned a ddaeth ynghyd i lanhau
Pobl a lleY cyngor

y gymuned a ddaeth ynghyd i lanhau

Diweddarwyd diwethaf: Medi 22, 2017 4:30 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
y gymuned a ddaeth ynghyd i lanhau
RHANNU

Mae cymuned leol wedi dod at ei gilydd i helpu i dacluso eu hardal leol.

Cynnwys
  • Help llaw gan wirfoddolwyr lleol
  • Digwyddiadau “mwyaf prysur erioed” a gynhaliwyd yr haf hwn

Cynhaliwyd diwrnod gweithredu amgylcheddol yn ddiweddar yn Smithfield ym Mharc Caia. Gwnaeth swyddfa Ystâd Caia Cyngor Wrecsam drefnu bod sgip enfawr yn cael ei osod ar yr ystâd ac roedd tenantiaid lleol yn gallu dod â sbwriel swmpus ac eitemau diangen allan.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Roedd swyddogion tai, gofalwyr a gweithredwyr Strydwedd y cyngor wrth law i helpu tenantiaid i gael gwared ar eu sbwriel.

Erbyn diwedd y digwyddiad, roedd y sgip wedi llenwi gyda phob math o eitemau o feiciau a chadeiriau i ficrodonnau a dodrefn.

Help llaw gan wirfoddolwyr lleol

Yn ffodus, roedd help llaw ychwanegol ar gael diolch i rai tenantiaid ac aelodau’r Rock Chapel gerllaw, a wirfoddolodd eu hamser i ddod i helpu.

Ar ôl y digwyddiad, cynigiwyd lluniaeth i’r gwirfoddolwyr a gyfrannwyd gan y Co-op lleol ac roedd ei angen yn fawr arnynt.

y gymuned a ddaeth ynghyd i lanhau

Digwyddiadau “mwyaf prysur erioed” a gynhaliwyd yr haf hwn

Dywedodd Cynghorydd lleol Smithfield, Cyng Adrienne Jeorrett, “Hoffwn ddiolch i staff swyddfa’r ystâd, Strydwedd, y Co-op a’r tenantiaid a gwirfoddolwyr o Rock Chapel am ddod at ei gilydd i helpu i dacluso ein hardal leol.

“Llwyddwyd i symud llawer iawn o sbwriel felly mae hyn yn amlwg wedi bod yn help mawr i lawer o denantiaid ac mae’n garedig iawn o’r rhai a fu’n cymryd rhan i fod wedi rhoi o’u hamser i helpu i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Cynhelir digwyddiadau gweithredu amgylcheddol rheolaidd ar ystadau ar draws y fwrdeistref sirol. Rydym wedi gweld rhai o’r digwyddiadau prysuraf erioed mewn nifer o leoliadau yr haf hwn felly mae’n wych gweld eu bod yn parhau i fod yn boblogaidd iawn. Maen nhw’n rhoi gwasanaeth gwerthfawr i denantiaid drwy ganiatáu iddynt gael gwared ar eitemau sbwriel swmpus heb orfod teithio’n bell o’u cartrefi.”

Caiff gwybodaeth gyfredol am y digwyddiadau hyn ei rhoi ar dudalen Facebook Tai CBSW ar gyfer tenantiaid y cyngor.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi wedi bod yn pendroni erioed beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu? Dysgwch fwy yma Ydych chi wedi bod yn pendroni erioed beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu? Dysgwch fwy yma
Erthygl nesaf Creadigrwydd pobl ifanc yn y ffrâm mewn arddangosfa ym Mhrifysgol Glyndŵr Creadigrwydd pobl ifanc yn y ffrâm mewn arddangosfa ym Mhrifysgol Glyndŵr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English