Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ANHYGOEL! Gostyngiad o 48 yn nifer y galwadau ambiwlans hyd yma eleni…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > ANHYGOEL! Gostyngiad o 48 yn nifer y galwadau ambiwlans hyd yma eleni…
FideoPobl a lleY cyngor

ANHYGOEL! Gostyngiad o 48 yn nifer y galwadau ambiwlans hyd yma eleni…

Diweddarwyd diwethaf: 2019/12/06 at 1:44 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch 12 cam tuag at Nadolig mwy diogel

Gyda lwc, ni fyddwch yn gorfod ei defnyddio, ond os yw pethau’n mynd o chwith yn ystod eich noson allan, mae croeso i chi ymweld â’r Ganolfan Les os oes arnoch chi angen cymorth.

Mae Prosiect Lles Wrecsam wedi bod yn weithredol yn Hafan y Dref, yng nghanol tref Wrecsam ers mis Rhagfyr 2015. Mae gwirfoddolwyr y Groes Goch yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau gwahanol gan gynnwys Bugeiliaid Stryd Wrecsam, busnesau lleol, yr heddlu a gwasanaethau iechyd i sicrhau fod pobl sy’n ymweld â Wrecsam yn cael noson ddiogel a llawn hwyl. Maent yn cynnig cefnogaeth emosiynol a chymorth cyntaf i bobl sy’n dod i’r ganolfan, a nid fyddant yn beirniadu pobl ar eu hamgylchiadau.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Eleni, hyd yma, mae 48 ambiwlans wedi cael eu canslo drwy ddod o hyd i ddewisiadau mwy priodol i alwadau 999.

Wedi colli’ch ffrindiau? Dim batri ar ôl yn eich ffôn i’w ffonio nhw? Yn feddw gaib a dim ffordd adref?

Peidiwch â phoeni, mae’r ganolfan yma i’ch helpu chi.

Meddai Michelle McBurnie, Gwirfoddolwr y Groes Goch Brydeinig, “Mae’r ganolfan ar gael i helpu unrhyw un sydd angen cymorth yn ystod noson allan yn Wrecsam. Mae’r ganolfan yn sicrhau bod Wrecsam yn lleoliad diogel ar gyfer noson allan ac mae hefyd yn lleihau’r straen ar sefydliadau partner eraill yng nghanol y dref.”

Y shifft arferol yw 10:30pm a 04.30am dros nos, gyda rhai shifftiau ychwanegol dros gyfnod y Nadolig a gwyliau banc, ar adegau pan fyddai’r mwyafrif o bobl yn dewis mwynhau eu hunain â’u teuluoedd, mae grŵp o wirfoddolwyr yn mynd allan i weithio yn y ganolfan yn rheolaidd.

Rhwng mis Gorffennaf a Medi eleni, roedd 95% o’r bobl a dderbyniodd gefnogaeth gan y ganolfan yn gallu mynd ymlaen i fwynhau gweddill eu noson, neu cawsant eu cludo gartref gan berthynas neu ffrind.

Os hoffech ddarganfod mwy am y Ganolfan Les, gallwch gysylltu â’r tîm ar 01745 828330 / NorthWales@redcross.org.uk

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol see intervene act Gweld. Ymyrryd. Gweithredu.
Erthygl nesaf Wrexham Council keeping money safe Ydyn ni’n gofalu am eich arian? Cewch wybod ar 19 Rhagfyr

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 17, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English