Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiadau ac arddangosfeydd sydd eisoes wedi eu trefnu yn Nhŷ Pawb – darllenwch fwy yma!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Digwyddiadau ac arddangosfeydd sydd eisoes wedi eu trefnu yn Nhŷ Pawb – darllenwch fwy yma!
Busnes ac addysgPobl a lle

Digwyddiadau ac arddangosfeydd sydd eisoes wedi eu trefnu yn Nhŷ Pawb – darllenwch fwy yma!

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 3, 2017 2:44 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham arts hub
RHANNU

Byddwch yn debygol o fod yn ymwybodol o ddigwyddiadau Dydd Llun Pawb, lle bydd traddodiad dydd Gŵyl Banc yn Wrecsam yn cael ei atgyfodi ar gyfer Tŷ Pawb.

Bydd y ganolfan £4.5 miliwn, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Wrecsam a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn dod ag elfen newydd i Ganol Tref Wrecsam, gan ddwyn y celfyddydau ac arddangosfeydd diwylliannol ynghyd at farchnadoedd traddodiadol y dref.

Bydd digon o adloniant ar Ddydd Llun Pawb, fydd yn nodi agor cyfleuster newydd y celfyddydau, marchnadoedd a chymunedau.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Ond rydym eisoes yn edrych y tu hwnt i’r diwrnod agor.

Mae rhaglen gyfan o arddangosfeydd eisoes wedi eu trefnu ar gyfer blwyddyn gyntaf Tŷ Pawb, sy’n cynnwys:

  • Wal Pawb – gosodiad celf mawr gan yr artist Katie Cuddon
  • Dydd Llun Pawb ei hun, ac arddangosfa ddilynol yn dangos llwyddiant y digwyddiad
  • “Ai’r Ddaear yw Hon?” arddangosfa grŵp yn edrych ar ddyfodol ein planed o safbwynt amgylcheddol, wedi ei dwyn ynghyd gan y curadur annibynnol Angela Kingston
  • Bydd Wrecsam Agored yn dychwelyd, lle all unrhyw un, waeth be fo eu hoedran neu eu cefndir, gyflwyno gwaith celf.
  • Gwaith Sifft – arddangosfa o waith gan artistiaid o gymuned y Sipsiwn, Romani a Theithwyr
  • Tair arddangosfa deithiol sy’n cynnwys arddangosfeydd proffil uchel gan Gasgliad Cyngor y Celfyddydau a’r Cyngor Crefft. Bydd yr enwau enwog a phoblogaidd yn yr arddangosfeydd hyn yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn.
  • Bydd “Cymunedau Gwehyddu” (teitl gweithio) yn arddangosfa fyw a gynhelir o flaen ac yn ystod arddangosfa’r Cyngor Crefft.

Bydd yr oriel hefyd ar agor i ofodau arddangos o’r enw “gofodau rhydd” – yn y cyfnodau rhwng arddangosfeydd sefydlog, bydd rhannau o’r oriel ar gael i grwpiau cymunedol neu randdeiliaid i arddangos eu gwaith eu hunain.

Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae llawer o ddiddordeb wedi bod o ran beth fydd Tŷ Pawb yn ei gynnig i Wrecsam, ac mae pobl eisoes yn edrych ymlaen at Ddydd Llun Pawb.

“Rydym yn gwybod y bydd yr agoriad a dyddiau cynnar y cyfleuster newydd o ddiddordeb i’r cyhoedd, mae digwyddiadau ac arddangosfeydd eisoes wedi eu trefnu ar gyfer blwyddyn gyntaf Tŷ Pawb.

“Bydd manylion pellach ar yr arddangosfeydd unigolyn cael eu cyhoeddi fel bydd y dyddiadau’n agosáu.”

Bydd digwyddiadau yn parhau i gael eu cynnal yn Oriel Wrecsam ac yn adeilad Arcêd y De Marchnad y Bobl wrth i waith gael ei wneud ar Dŷ Pawb, gyda gweithgareddau i blant bob dydd Sadwrn gan gynnwys paentio wynebau a chrefftau.

Cynhelir dosbarthiadau darluniau bywyd yn Oriel Wrecsam bob nos Iau, a gan weithio ar y cyd gyda’r Cafe in the Corner a TWIG – mae gweithdai am ddim gyda chinio bob prynhawn dydd Mawrth.

Mae’r cerddor a’r adroddreg straeon Jacqui Bloor hefyd yn rhedeg cyfres o weithdai galw heibio Cerddoriaeth Piccolo yn Oriel Wrecsam rhwng 10am a hanner dydd bob dydd Llun a dydd Gwener, i fabanod a phlant bach hyd at 5 oed.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cysylltiadau cryf â’r dref i Siop Gigydd Hugh John Jones Cysylltiadau cryf â’r dref i Siop Gigydd Hugh John Jones
Erthygl nesaf Cost of Living A fydd Credyd Cynhwysol yn effeithio ar Denantiaid Cyngor Wrecsam? Darllenwch ymlaen……

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English