Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Disgyblion Wrecsam yn sêr canu yng nghyngherddau Arena Manceinion
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Disgyblion Wrecsam yn sêr canu yng nghyngherddau Arena Manceinion
Busnes ac addysgPobl a lle

Disgyblion Wrecsam yn sêr canu yng nghyngherddau Arena Manceinion

Diweddarwyd diwethaf: 2020/02/20 at 11:10 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham pupils are singing stars at Manchester Arena concerts
RHANNU

Daeth disgyblion o ddwy ysgol yn Wrecsam yn sêr canu wrth gymryd rhan yng nghyngherddau ‘Young Voices’ yn Arena Manceinion mis diwethaf.

Bu disgyblion o Ysgol Deiniol yn canu mewn cyngerdd ar 29 Ionawr ac roedd Ysgol Acrefair yn rhan o’r cyngerdd y diwrnod canlynol ar 30 Ionawr.

Mae cyngherddau ‘Young Voices’ wedi cael eu cynnal am dros 20 mlynedd gydag ysgolion ar draws y DU yn cymryd rhan. Mae’r cyngherddau’n cael eu harwain gan gantorion enwog, felly mae’r plant yn cael canu mewn lleoliad anhygoel, yn ogystal â gwneud hynny gydag enwogion.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Dyma’r cyngherddau côr plant mwyaf yn y byd gyda rhwng 5,000-8,000 o blant yn cymryd rhan ymhob cyngerdd!

Dywedodd Kevin Baugh, Pennaeth Ysgol Deiniol: “Rydym wedi bod yn mynd i ‘Young Voices’ ers pedair blynedd bellach, ac mae’r plant wrth eu boddau’n perfformio o flaen miloedd o bobl mewn lleoliad mawreddog. Mae ein côr ysgol yn enwog yn yr ardal am berfformio o flaen preswylwyr mewn cartrefi nyrsio yn ystod cyfnod y Nadolig, yn ein eglwys leol ac hefyd er mwyn casglu arian ar gyfer Hosbis Tŷ’r Eos.”

#teamdeiniol pic.twitter.com/ha5b3j6yv5

— YsgolDeiniol (@ysgoldeiniol) January 29, 2020

Dywedodd Rebecca Turner, Pennaeth Ysgol Acrefair: “Dyma ein tro cyntaf yn ‘Young Voices’. Cafodd y plant a’r staff amser gwych yn canu ynghyd â 7,000 o blant, cerddorion, cantorion a dawnswyr proffesiynol.”

Bu’r plant yn ymarfer canu a symudiadau dawnsio am nifer o wythnosau gyda’u hathrawes Mrs Martin, ac roeddent yn falch iawn o’u perfformiad.

Dywedodd Lili-Beth o Flwyddyn 5 yn Ysgol Acrefair: “Roedd yn anhygoel; doeddwn i methu credu ein bod ni yno!”

Almost set to go. Live on BBC North West any moment. pic.twitter.com/2DlFclFToh

— Ysgol Acrefair (@YsgolAcrefair) January 30, 2020

Un o’r wynebau enwog cafodd y plant gyfle i ganu ag o, oedd Tony Hadley, prif ganwr y grŵp Spandau Ballet, ac fe drydarodd i ddweud ei fod wedi mwynhau’r cyngherddau.

We loved every moment- what an experience! https://t.co/1kBGD2aHJy

— Ysgol Acrefair (@YsgolAcrefair) February 1, 2020

Ategodd Mr Baugh: “Rwy’n falch iawn o Mrs Manuel a Mrs Guy a chôr ein hysgol, ond hefyd yn hapus dros y plant a gafodd gyfle gwych i berfformio o flaen cymaint o bobl.”

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Confetti Conffeti – Gadewch i ni ei gadw’n naturiol ar gyfer y priodasau
Erthygl nesaf Alyn Waters Cyflawniad gwych bod 1,000 o goed wedi’u plannu yn Nyfroedd Alun.

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall Mawrth 4, 2026
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
St Anne's
Busnes ac addysg

Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!

Chwefror 27, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English