Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â barnu llyfr sain yn ôl ei glawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Peidiwch â barnu llyfr sain yn ôl ei glawr
Pobl a lleY cyngor

Peidiwch â barnu llyfr sain yn ôl ei glawr

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 21, 2020 1:58 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Don’t judge an audiobook by its cover
RHANNU

Rydym wedi sôn wrthych chi sawl gwaith erbyn hyn fod gwasanaeth Borrowbox Llyfrgelloedd Wrecsam yn caniatáu i chi gael mynediad rhwydd at gannoedd o e-lyfrau sain.. ond a ydych chi wedi rhoi cynnig arni eto?

Cynnwys
  • Gallwch gael mynediad at y gwasanaeth yn rhwydd
  • Dewis eich llyfr
  • Hanes gwych
  • Ymunwch nawr!

Wel, rydym yn parhau i argymell y gwasanaeth yn fawr, gall y llyfrau sain hyn fod yn gydymaith gwych i chi wrth i chi geisio mynd ati i gwblhau tasgau diflas, yn enwedig gan ein bod ni bellach yn treulio rhagor o amser yn ein cartrefi.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Gallwch gael mynediad at y gwasanaeth yn rhwydd

I ddechrau, bydd yn rhaid i chi fod yn aelod o Lyfrgell Wrecsam, ond os nad ydych chi eisoes wedi ymaelodi, gallwch wneud hynny yn rhwydd ar-lein.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho’r ap Borrowbox ar eich ffôn neu lechen ddigidol – mae’r ddolen ar gyfer lawrlwytho’r ap ar gael ar dudalen gwasanaethau ar-lein Llyfrgelloedd Wrecsam.

Nodwch rif eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN, ac i ffwrdd â chi!

Felly, yn ein hamser rhydd – a gan fod nifer o’r ffensys yn ein gerddi angen côt newydd o baent – ymhen ychydig o gliciau syml, roeddem yn barod i ddechrau gwrando.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Dewis eich llyfr

Heb os, y rhan anoddaf o’r broses oedd penderfynu pa lyfr sain i’w ddewis o blith y casgliad enfawr o lyfrau.

Gyda chategorïau fel Enillwyr Gwobrau, Dirgelwch a Chyffro, Hunangofiannau ac Ysgrifau, Hanes a Busnes, roedd yn anodd gwybod ble i ddechrau!

Rwyf wrth fy modd â hunangofiannau, felly penderfynom ddewis y categori hwn, ond roeddem hefyd yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Wrth bori drwy’r llyfrau sain gwahanol, mae modd gweld clawr gwreiddiol y llyfrau, hyd y recordiad, disgrifiad cryno o’r cynnwys, roedd hyn yn ddefnyddiol iawn.

Dyna sut y gwnaethon ni benderfynu ar ‘Knowing the Score: My Family and Our Tennis Story’ gan Judy Murray yn y diwedd.

Mae’n deg dweud nad oeddem ni’n gwybod llawer am Judy i ddechrau, oni bai am y ffaith mai hi yw mam a chefnogwr mwyaf ffyddlon Andy Murray.

Fel nifer o bobl eraill, roedd dathliadau dros ben llestri Judy ar y teledu bob tro yr oedd Andy yn llwyddo yn y cwrt tennis wedi dechrau mynd ar ein nerfau, ond ychydig iawn yr oeddem yn ei wybod amdani fel arall.

Aethom ati felly, gyda meddwl agored, i ymrwymo i nifer fawr o oriau o wrando, a gwasgu’r botwm ‘chwarae’ heb wybod yn iawn beth i’w ddisgwyl, ond yn awyddus iawn i glywed ei hanes.

Hanes gwych

Judy ei hun oedd yn adrodd yr hanes, ac roedd yn wych gwrando arni hi’n adrodd ei hanes ei hun, yn arbennig yn ystod rhai o’r adegau mwyaf teimladwy, gallwn glywed yr emosiwn yn ei llais.

Fel hyfforddwr tennis, roedd Judy’n ei chael hi’n anodd derbyn y diffyg cyfleoedd oedd ar gael i’r chwaraewyr talentog ac ifanc yr oedd hi’n gweithio gyda nhw yn yr Alban, ac mae hi’n egluro sut y bu’n rhaid iddi fod yn greadigol er mwyn darparu’r cyfleoedd yr oedd hi wedi colli allan arnynt i’r chwaraewyr ifanc.

Arweiniodd gwaith rhagorol Judy at ei phenodiad fel hyfforddwr tennis cenedlaethol yr Alban ar ddau achlysur gwahanol, ac wrth iddi adrodd hanes ei chyfweliad cyntaf am y swydd, roeddem, fel gwrandawyr, yn wirioneddol obeithio y byddai hi’n cael ei phenodi – a choeliwch chi fi, roedd hi’n gwbl haeddiannol o’r swydd!

Roedd y sgiliau a ddatblygodd Judy yn ystod y blynyddoedd hynny yn sylfaen gwych iddi ar gyfer pan ddechreuodd ei meibion – Jamie ac Andy – lwyddo yn y maes yn ogystal. Defnyddiodd ei hangerdd a’i phrofiad i ymestyn cyllideb a oedd yn dynn iawn er mwyn cynnig y cyfleoedd yr oedd chwaraewyr tennis ifanc a thalentog mewn gwledydd eraill yn eu cael ar blât i’w meibion.

Mae yna ran ddiddorol iawn o’r llyfr sain sy’n egluro fod Andy a Jamie yn agos iawn o ran eu gallu fel chwaraewyr unigol ar un cyfnod, ond yn anffodus, aeth pethau o chwith pan anfonwyd Jamie i fyw yng Nghaergrawnt i gael ei hyfforddi gan hyfforddwyr cenedlaethol. Pan ddychwelodd Jamie yn gynnar o Gaergrawnt, roedd wedi colli rhywfaint o’i angerdd i lwyddo fel chwaraewr tennis unigol.

Golygodd profiad drwg Jamie fod Andy wedi gwrthod nifer o gyfleoedd tebyg, nes y daeth y cyfle cywir i’w ran, sef i fyw a hyfforddi yn Barcelona, lle roedd yn ffynnu … bu’n rhaid i Judy weithio’n galed iawn i ymestyn a rheoli ei harian yn ofalus yn ystod y cyfnod hwn, ond defnyddiodd ei sgiliau a’i gwybodaeth i sicrhau llwyddiant i’w mab.

Mae’r llyfr sain saith awr arbennig hwn yn llawn hanesion gwych, ond nid oes arnaf eisiau mynd i ormod o fanylder rhag ofn eich bod yn awyddus i ddarllen y llyfr eich hunan.

Mae’n deg dweud fod y llyfr sain hwn yn hollol wahanol i’r hyn yr oeddem wedi’i ddisgwyl. Mae gan Judy ei hanes rhyfeddol ei hun na fydden ni byth wedi’i ddychmygu wrth ei gwylio ar Wimbledon neu Strictly Come Dancing.

Felly fy nghyngor i chi yw; ‘peidiwch â barnu llyfr sain yn ôl ei glawr’!

Ymunwch nawr!

Cofiwch, bydd yn rhaid i chi fod yn aelod o Lyfrgell Wrecsam, ond os nad ydych chi eisoes wedi ymaelodi, gallwch wneud hynny yn rhwydd ar-lein.

Gallwch lawrlwytho’r ap Borrowbox ar eich ffôn neu lechen ddigidol – mae’r ddolen i lawrlwytho’r ap ar gael ar dudalen gwasanaethau ar-lein Llyfrgelloedd Wrecsam.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Business £14,410 miliwn yn cael i gyflwyno o dan Ryddhad Ardrethi Busnes
Erthygl nesaf Neighbour Cofiwch feddwl am eich cymdogion yn ystod y cyfyngiadau symud

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English