Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n rhentu’n breifat neu yn landlord? Sut i ddelio â phroblemau sy’n ymwneud ag eiddo yn ystod COVID-19
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi’n rhentu’n breifat neu yn landlord? Sut i ddelio â phroblemau sy’n ymwneud ag eiddo yn ystod COVID-19
Pobl a lleY cyngor

Ydych chi’n rhentu’n breifat neu yn landlord? Sut i ddelio â phroblemau sy’n ymwneud ag eiddo yn ystod COVID-19

Diweddarwyd diwethaf: Mai 6, 2020 12:24 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Council Tax
RHANNU

Os ydych chi’n rhentu tŷ gan landlord preifat a bod gennych broblem frys gyda’ch eiddo, dyma gyngor am sut i gael help yn ystod y cyfyngiadau ar symud yn ystod Covid-19.

Dylid rhoi gwybod i’ch landlord am bob argyfwng, fel diffygion trydanol neu nwy (gan gynnwys diffyg dŵr poeth neu wres), materion draenio neu gynnydd o ran risg tân, ond os na allwch gael help ganddyn nhw, gallwch ffonio tîm Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor.

Gallwch gysylltu â’r adran Gwarchod y Cyhoedd dros e-bost ar healthandhousing@wrexham.gov.uk neu trwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01978 292000.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Pan fyddwn yn cael eich cwyn am amodau gwael, bydd swyddog achos yn cysylltu â chi i drafod y diffygion ac mae’n bosibl y bydd yn gofyn am dystiolaeth ar ffurf llun neu fideo i’n galluogi i asesu’r risg.

Mae’n bosibl y bydd staff Gwarchod y Cyhoedd yn ymweld â’ch cartref hefyd, gan lynu wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a gwisgo cyfarpar diogelu personol, neu drefnu i asesu’r broblem dros fideoalwad.

Er mwyn ein galluogi i’ch ffonio chi’n ôl, mae angen i chi gasglu’r wybodaeth a ganlyn:

  • cyfeiriad llawn yr eiddo
  • eich manylion cyswllt, rhif ffôn ac e-bost lle bynnag bo’n bosibl
  • disgrifiad o’r diffygion a’u heffaith arnoch chi
  • os oes unrhyw ddeiliaid sy’n dangos arwyddion neu symptomau o Covid-19
  • os oes unrhyw ddeiliaid sy’n cael eu hystyried fel unigolion diamddiffyn, gan gynnwys unrhyw weithwyr allweddol
  • Os oes unrhyw un yn yr eiddo sydd yn y grŵp gwarchod

Cysylltiadau Tenantiaeth a Throi Pobl Allan yn ystod COVID-19

Mae Llywodraeth y DU wedi llunio cyfres o fesurau i ddiogelu pobl sy’n rhentu ac sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19. Mae hyn yn golygu na chaiff unrhyw un sy’n rhentu, naill ai lety cymdeithasol neu breifat, eu gorfodi i adael eu cartref.

Cyngor i denantiaid

Mae’r Cyngor yn dal i ymchwilio i gwynion am aflonyddu a throi allan yn anghyfreithlon. Os byddwch chi’n gwneud cwyn, bydd swyddog achos yn cysylltu â chi i’ch cynghori.

Rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor i denantiaid am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • bygythiad o gael eu troi allan
  • aflonyddwch gan eu landlord
  • gwaith atgyweirio i eiddo rhent
  • safleoedd cartrefi symudol
  • trwyddedu llety rhent

Cyngor i landlordiaid

Fel landlord, rydych chi’n dal i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth  berthnasol.

Sylwch nad ydym yn cynghori landlordiaid am sut i gydymffurfio â deddfwriaeth, ac nid yw unrhyw wybodaeth a ddarperir gyfystyr â chyngor. Dylech geisio eich cyngor arbenigol eich hun (e.e. gan gymdeithas landlordiaid neu gyfreithiwr).

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol HMRC Cyllid a Thollau EM yn gwahodd gweithwyr hunangyflogedig i baratoi i wneud eu ceisiadau
Erthygl nesaf VE Day Sut allwch chi nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) dydd Gwener yma (8 Mai)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English