Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Deng mlynedd yn ddiweddarach…beth sy’n digwydd rŵan?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Deng mlynedd yn ddiweddarach…beth sy’n digwydd rŵan?
Pobl a lle

Deng mlynedd yn ddiweddarach…beth sy’n digwydd rŵan?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 26, 2017 9:06 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Deng mlynedd yn ddiweddarach...beth sy’n digwydd rŵan?
RHANNU

Mae yna barti yn digwydd yma…

Yng Ngwersyllt hynny yw!

Mae Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt yn dathlu deng mlynedd ers agor ei drysau ac mae’r rheolwr, Sandra Davies, yn trefnu parti mawr i ddathlu.

Mae dydd Iau, 2 Tachwedd yn nodi 10 mlynedd i’r diwrnod ers i’r drysau agor ac mae paratoadau’r parti’n dechrau siapio. Dechreuodd grŵp o wirfoddolwyr yr wythnos ddiwethaf weithio ar ddarn o waith celf metel i’w roi ar y wal, a fydd nid yn unig yn dathlu pen-blwydd y ganolfan yn ddeg oed – bydd wedi cael ei wneud o dun! – ond bydd hefyd yn nodi can mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r gwirfoddolwyr yn gwneud 100 pabi o dun, o’r enw Pabi Pawb, a fydd yn cael eu trefnu ar y wal mewn siâp un pabi coffaol mawr a fydd yn cael ei ddadorchuddio ar 2 Tachwedd gan y Cynghorydd John Pritchard, Maer Wrecsam.

Deng mlynedd yn ddiweddarach...beth sy’n digwydd rŵan?
Mae gwirfoddolwyr wedi dechrau creu 100 o babïau tun am y gelfyddyd goffaol

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Bydd llawer o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt hefyd, gan gynnwys gwneud bomiau bath, crefft siwgr ac uwchgylchu. Gallwch ymlacio gyda therapi holistaidd a Tai Chi, neu galwch heibio’r llyfrgell ac ymuno gyda’r clwb llyfrau.

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan Sandra Davies: “Fedra i ddim coelio bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni agor y ganolfan. Mae cymaint o bethau wedi digwydd yn yr amser hwnnw ac mae’n dal i fod yn lle gwych i’r gymuned ddod at ei gilydd a mwynhau amrywiaeth o bethau.

“Rydym wir wedi cyffroi am y darn o waith celf sy’n mynd i fod ar y wal, gan ei fod yn cyfuno dyddiad pwysig i ni ac yn goffâd i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae heyd yn dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd hefyd sydd wedi gweithio yn y ganolfan yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i greu rhywbeth arbennig a fydd yn cael ei arddangos am byth.”

Mae gwahoddiad i bawb, felly sicrhewch eich bod yn dod i Ganolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt ar 2 Tachwedd rhwng 2 a 4pm. Mae disgo hefyd i’r ieuenctid (5-11 mlwydd oed) o 5.30 tan 7.30pm, sy’n rhad ac am ddim ond mae’n rhaid i chi gael tocyn o flaen llaw gan fod llefydd yn brin.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Sut i fwrw ‘mlaen gyda phennod 1! Sut i fwrw ‘mlaen gyda phennod 1!
Erthygl nesaf Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar? Be’ sy’n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam – ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English