Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CARU LLYFRAU? FYDDWCH CHI DDIM AM FETHU HWN…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > CARU LLYFRAU? FYDDWCH CHI DDIM AM FETHU HWN…
Pobl a lleY cyngor

CARU LLYFRAU? FYDDWCH CHI DDIM AM FETHU HWN…

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 25, 2017 12:32 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Library Books Events
RHANNU

Mae dyddiadau Gŵyl Geiriau 2018 un o’r prif wyliau llyfrau yng Ngogledd Cymru a’r Gororau, wedi’u cyhoeddi.

Cynnwys
  • Nid oes rhaid i chi aros tan fis Ebrill…
  • Ysbrydoli storïau hyfryd…

Cynhelir digwyddiadau llenyddol mewn lleoliadau ar draws Wrecsam rhwng dydd Sadwrn, 21 Ebrill a dydd Sadwrn, 28 Ebrill ac mae trefnwyr yn brysur yn trefnu rhaglen gyffrous ac arloesol.

Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf yn 2015, gydag amrywiaeth gynyddol o ddigwyddiadau, sydd wedi bod yn boblogaidd gyda phobl leol.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

O’r dechrau mae wedi helpu awduron lleol i ddod â’u gwaith i gynulleidfa ehangach, yn ogystal â dod ag amrywiaeth o awduron poblogaidd ac enwog i Wrecsam i siarad am eu llyfrau, eu dylanwadau llenyddol a phrofiad ysgrifennu i eraill.

Nid oes rhaid i chi aros tan fis Ebrill…

Os bydd Ebrill i’w weld fel amser hir i ffwrdd, mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu cyn hynny fel rhagflas i Bydd perfformiad o Bothered and Bewildered yn Llyfrgell Wrecsam ddydd Mawrth, 28 Tachwedd am 7pm.

Bydd y ddramodwraig Gail Young yn siarad am gefndir ei drama gomedi, cipolwg emosiynol i realiti dementia. Bydd Gail a’i ffrindiau yn perfformio darnau o’r ddrama, sy’n dilyn Irene a’i dwy ferch Louise a Beth wrth i’r merched golli eu mam yn feddyliol ond nid yn gorfforol.

Ysbrydoli storïau hyfryd…

Bydd yr awdur o fri William Ryan (cyfres Korolev a The Constant Soldier) yn arwain dau weithdy prynhawn i egin awduron ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr yn Llyfrgell Wrecsam.

Bydd y gweithdy cyntaf, o’r enw Inspirational Resources for Writers, yn dangos sut i ddefnyddio deunydd archif i ysbrydoli storïau hyfryd.

Yna cynhelir Improving First Drafts, lle bydd Wiliam Ryan yn dangos sut i gymryd y testun cychwynnol a’i loywi i berffeithrwydd.

Cynhelir sgwrs gyfareddol William Ryan, The Hoecker Photos: From Artefacts to Fiction, yn Llyfrgell Wrecsam hefyd, am 7pm.

Yn 2007, gwnaeth swyddog gwybodaeth milwrol Americanaidd wedi ymddeol gyfrannu casgliad hynod o ffotograffau i Amgueddfa Goffa Holocost yr Unol Daleithiau. Tynnwyd y ffotograffau rhwng mis Mehefin 1944 a mis Ionawr 1945 ac roeddent yn perthyn i Karl Hoecker, dirprwy i Richard Baer, cadlywydd olaf Auschwitz.

Pan ddaeth yr awdur William Ryan ar eu traws roedd wedi’i hudo. Oherwydd yn y ffotograffau, gwelwn ddynion arferol iawn, ar yr wyneb, ond mai’r rhain oedd rhai o’r llofruddion torfol gwaethaf mewn hanes.

Bydd William yn dangos rhai o ffotograffau Hoecker ac egluro sut gwnaeth eu defnyddio nhw a ffotograffau eraill i greu darn o waith ffuglen sydd, ar yr un pryd, a’i wreiddiau mewn hanes.

Mae tocynnau ar gyfer pob un o’r digwyddiadau ar gael yn Llyfrgell Wrecsam.

Caiff rhaglen lawn 2018 ei chyhoeddi ym mis Ionawr a bydd manylion ar gael ar wefan Gŵyl Geiriau hefyd.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Eich gwaith mewn miloedd o bocedi? Eich gwaith mewn miloedd o bocedi?
Erthygl nesaf Cefnogwch gyfle ysgol i ennill maes chwarae newydd Cefnogwch gyfle ysgol i ennill maes chwarae newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English