Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen AE Sewing Machines yn falch o roi 100 o fisorau i weithwyr rheng flaen y GIG
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > AE Sewing Machines yn falch o roi 100 o fisorau i weithwyr rheng flaen y GIG
Busnes ac addysgY cyngor

AE Sewing Machines yn falch o roi 100 o fisorau i weithwyr rheng flaen y GIG

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 9, 2020 9:56 am
Rhannu
Darllen 3 funud
AE Sewing Machines
RHANNU

Yn ddiweddar darparodd AE Sewing Machines, cwmni sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall yn Rhiwabon, 100 o fisorau i orchuddio’r wyneb i Awyr Las – Elusen GIG Gogledd Cymru, er mwyn helpu gweithwyr allweddol drwy’r pandemig.

Casglodd aelod o dîm Betsi Cadwaladr y fisorau hyn yn ddiweddar ac yna cawsant eu dosbarthu i’r Ward Gofal Dwys a’r Uned Gofal Critigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Mae AE Sewing Machines yn fusnes teuluol wedi’i leoli yn Wrecsam, ac mae’n un o gyflenwyr offer torri defnydd, gwnïo a gorffen mwyaf blaenllaw’r DU. Yn ogystal â darparu ystod eang o offer o safon uchel yn cwmpasu pob agwedd o weithgynhyrchu tecstilau, maent yn datblygu datrysiadau gwnïo pwrpasol i ddiwallu anghenion penodol eu cwsmeriaid ac maent yn ymfalchïo yn eu gallu i ddarparu gofal a chymorth o safon i gwsmeriaid.

Maent yn aelodau balch o Make it British, ac yn eiriolwyr amlwg dros Weithgynhyrchu ym Mhrydain ac yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gefnogi hynny.

AE Sewing Machines yn chwarae ei ran

Dywedodd y Cynghorydd Ward Lleol, David Bithell: “Gwych yw gweld busnes lleol, AE Sewing Machines, yn chwarae ei ran i helpu i ddiogelu gweithwyr y GIG yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r busnes hefyd yn darparu’r rhain fel arwydd bychan o ddiolch am yr holl waith anhygoel y maent yn ei wneud.”

Meddai Rhys Gerrard, Cyfarwyddwr Masnachol AE Sewing Machines: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â Busnesau Prydain i gynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol drwy gydol y cyfnod clo, gan ddarparu peiriannau arbenigol a chymorth technegol, a byddwn yn parhau i wneud hyn am gyhyd ag y bydd angen. Diolch o galon i’r holl weithwyr allweddol sy’n gweithio’n galed ar y rheng flaen, rydym yn falch o allu bod yn rhan o gynhyrchu’r offer sydd ei angen i’w cadw’n ddiogel.”

LLUN: Rhys Gerrard, Cyfarwyddwr Masnachol AE Sewing Machines yn rhoi 100 o fisorau i Awyr Las.

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cronfa "Cymru Actif" £4m wedi’i lansio ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru Cronfa “Cymru Actif” £4m wedi’i lansio ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru
Erthygl nesaf New resource lets pupils practice their Welsh language skills from home Cymru Ein Dyfodol – mae ar Lywodraeth Cymru eisiau’ch barn chi wrth i ni ddechrau’r broses adfer yn dilyn argyfwng y coronafeirws

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English