Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tafarndai a Bwytai i agor eu drysau heddiw (03.08.20) gyda’ch diogelwch chi mewn cof
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Young Carers Action Day 2026
Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026
Pobl a lle
Wrexham Ty Pawb
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb
Digwyddiadau Pobl a lle
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Tafarndai a Bwytai i agor eu drysau heddiw (03.08.20) gyda’ch diogelwch chi mewn cof
Y cyngor

Tafarndai a Bwytai i agor eu drysau heddiw (03.08.20) gyda’ch diogelwch chi mewn cof

Diweddarwyd diwethaf: 2020/08/03 at 11:01 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
pubs
RHANNU

Heddiw bydd llawer o dafarndai a bwytai ar draws Wrecsam yn agor eu drysau am y tro cyntaf ers sawl mis.

Cynnwys
Peidiwch â mynd allan os oes gennych symptomau o’r Coronafeirws, hyd yn oed os mai symptomau ysgafn ydynt. Trefnwch brawf a chadw pawb yn ddiogelYmweld â thafarndai a bwytai yn ddiogel

Yn yr un modd â phob sector sy’n ailagor – maen nhw’n gwneud hynny gan gadw diogelwch staff ac ymwelwyr mewn cof.

Ni fydd pob tafarn yn dewis ailagor neu mae’n bosibl y byddant yn ailagor ar ddyddiad diweddarach, ond mae’r rhai fydd yn agor wedi cael canllawiau am beth mae’n rhaid iddynt ei wneud er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid ar waith. Gofynnir i chi roi rhai manylion personol hefyd, er mwyn iddynt allu cysylltu â chi pe baent yn cael gwybod bod rhywun wedi cael prawf positif.

Peidiwch â mynd allan os oes gennych symptomau o’r Coronafeirws, hyd yn oed os mai symptomau ysgafn ydynt. Trefnwch brawf a chadw pawb yn ddiogel

Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn agor ardaloedd awyr agored yn gynharach yn y mis, gan gynnwys gerddi cwrw. Mae’r mwyafrif o bobl sydd wedi bod i’r lleoedd hyn wedi ymddwyn mewn modd synhwyrol a diogel ac rydym yn annog pawb i ddychwelyd i dafarndai yn yr un modd.

Ymweld â thafarndai a bwytai yn ddiogel

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd: “Mae’r newyddion hwn yn newyddion da i’r rhai sy’n rhedeg tafarndai a bwytai ac sy’n gweithio ynddynt, wrth iddynt baratoi i groesawu cwsmeriaid yn ôl trwy’r drysau. Ond cofiwch fod y Coronafeirws yn dal i fod yma, yn ein cymunedau, ac mae’r canolfannau profi rhwydd yn ardal Caia a Hightown yn ein hatgoffa o hyn. Dilynwch bob un o’r canllawiau sydd ar waith er eich diogelwch chi a’r staff.”

Dywedodd Arolygydd Tref Wrecsam, Vic Powell: “Byddwn allan gyda staff trwyddedu i sicrhau bod pawb yn dilyn y gweithdrefnau cywir sydd ar waith i gadw pawb yn ddiogel. Rwyf am i gwsmeriaid eiddo trwyddedig, a’r rhai sy’n gweithio yno, fwynhau’r cyfnod ailagor, a gwneud hynny’n ddiogel a gofalu am ei gilydd. Yfwch yn gyfrifol a chofiwch fod y rheoliadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yno i’ch diogelu chi.”

Mae Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar waith, felly peidiwch ag yfed mewn unrhyw fan cyhoeddus yn Wrecsam.

Cofiwch! Os byddwch chi’n defnyddio cludiant cyhoeddus neu os bydd angen tacsi arnoch er mwyn teithio yn unrhyw le yn Wrecsam neu Gymru, bydd angen i chi wisgo masg wyneb. Sicrhewch fod gennych un neu ddau wrth law rhag ofn i chi newid eich cynlluniau ar y funud olaf. Mae gan yrwyr, gan gynnwys gyrwyr tacsi, hawl i beidio â’ch cludo os na fyddwch chi’n gwisgo masg.”

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol How we’re addressing concerns and improving our children’s services Sut rydyn ni’n mynd i’r afael â phryderon ac yn gwella ein gwasanaethau plant
Erthygl nesaf Traders Clicio a Chasglu – 4 man parcio am ddim bellach ar gael ar y Stryd Fawr

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Young Carers Action Day 2026
Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026
Pobl a lle Mawrth 10, 2026
Wrexham Ty Pawb
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 9, 2026
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall Mawrth 6, 2026
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle Mawrth 6, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English