Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Banc bwyd yn paratoi at y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Banc bwyd yn paratoi at y Nadolig
ArallPobl a lle

Banc bwyd yn paratoi at y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: 2017/11/07 at 12:04 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Banc bwyd yn paratoi at y Nadolig
RHANNU

Mae banc bwyd Wrecsam yn paratoi at gyfnod prysur dros y Nadolig ac fe aethom ni draw i’w prif warws yn Rhosddu i weld sut maen nhw’n gwneud hynny.

Cynnwys
“Pam mae pobl yn defnyddio banc bwyd?”“A ydyn nhw’n rhoi parsel bwyd i unrhyw un?”

O gyfraniadau’n cyrraedd, sydd i gyd angen eu pwyso, eu dyddio a’u sortio, hyd at ddosbarthu pan mae taleb wedi’i rhoi, mae’r logisteg yn gyflawniad y byddai unrhyw sefydliad, gwirfoddol neu breifat, yn falch ohono.

Mae dros 100 o wirfoddolwyr ymroddgar gan y banc bwyd sy’n gwneud yn siŵr ei fod yn gweithredu heb drafferthion ac nid oes unrhyw un yn llwgu unwaith mae eu hangen wedi’i nodi. Mae’r sefydliad yn edrych ar gael cyllid i gyflogi rheolwr prosiect a rheolwr warws i ddatblygu’r sefydliad ymhellach a sicrhau ei fod yn parhau i weithredu fel y mae rŵan.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Mae’r cyfraniadau’n dod gan unigolion, busnesau ac mae’r rhai mwyaf yn dod gan Tesco, Sainsbury’s, Eglwysi, Clybiau Rotari a Choleg Cambria.

Dywedodd Cambell Edmonson, Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Banc Bwyd: “Mae pobl yn Wrecsam yn hael iawn ac wastad yn ateb ein hapêl am gyfraniadau. Gan fod y ’Dolig ar ei ffordd, fe fydd gofyn i ni helpu teuluoedd ar draws Wrecsam ac ni allwn ni wneud hynny heb eu cefnogaeth nhw.”

Fe helpodd y banc bwyd tua 3,500 o unigolion yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Roedd 1,500 o’r rheini’n blant.  Ar draws Prydain, mae cynnydd o 10–12% wedi bod yn nifer y rhai sy’n defnyddio banciau bwyd.

Nid teuluoedd yn unig sydd angen help. Mae llawer o bobl sengl a chyplau mewn angen ar brydiau – nifer ohonynt mewn gwaith â chyflog isel.

“Pam mae pobl yn defnyddio banc bwyd?”

Mae’r banc bwyd yn helpu’r rheini sydd mewn “argyfwng”.  Nid yw yno i helpu pobl ddigartref, sydd fel arfer yn gallu cael help gan asiantaethau arbenigol eraill. Ei bwrpas yw helpu unigolion, cyplau a theuluoedd sydd angen parsel bwyd dros dri diwrnod tan mae eu cyflog neu fudd-daliad yn cyrraedd.

“A ydyn nhw’n rhoi parsel bwyd i unrhyw un?”

Ni all neb gerdded i mewn a gofyn am fwyd.  Mae’n rhaid iddyn nhw dderbyn taleb gan weithiwr proffesiynol, fel gweithiwr cymdeithasol, a bod wedi’u nodi fel rhai sydd mewn argyfwng. Mae’r daleb honno’n caniatáu iddynt gael parsel bwyd, ond mae hefyd yn eu galluogi i gael llawer o gyngor defnyddiol a chysylltiadau a fydd yn eu helpu i ddod allan o’u hargyfwng a rhoi’r gorau i ddefnyddio’r banc bwyd.

Daeth dau o’n haelodau arweiniol ar yr ymweliad hefyd, sef y Cyng. Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi a’r Cyng. Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

Dywedodd Paul ei fod yn “falch iawn o allu ymweld â’r banc bwyd i weld efo’m llygaid fy hun y gwaith caled mae’r gwirfoddolwyr gweithgar yma’n ei wneud i sicrhau bod gan deuluoedd yn Wrecsam rywle y gallant ddibynnu arno mewn cyfnod anodd. Fe fyddaf i’n cefnogi’r elusen haeddiannol hon ac rydw i’n annog pobl Wrecsam i gyfrannu’n hael wrth i fisoedd y gaeaf nesáu, gan gynnwys y Nadolig, a fydd yn peri gofid i lawer o bobl oherwydd eu sefyllfa ariannol.”

Eglurodd Joan bod “mynd i’r banc bwyd yn agoriad llygad.  Mae’n amlwg bod yr elusen yn gweithredu’n dda ac yn drefnus ac mae’n hynod bwysig i lawer o unigolion a theuluoedd yn Wrecsam.  Mae’n rhaid i ni gofio, yn ogystal â chyfraniadau o fwyd, maen nhw angen arian ar gyfer rhent, cyfleustodau ac yswiriant i weithredu hefyd, ac rydw i’n gofyn i’r rhai sy’n gallu fforddio cyfrannu’n ariannol i’r elusen ystyried gwneud hynny.”

Gallwch gyfrannu bwyd sy’n cadw ac sydd o fewn y dyddiad.  Mae posib’ cyfrannu mewn canolfannau banciau bwyd o amgylch Wrecsam ac hefyd mewn archfarchnadoedd lleol.

I gael gwybod mwy am fanc bwyd Wrecsam a sut y gallwch chi helpu ar wahân i roi cyfraniadau, cymerwch gipolwg ar eu gwefan nhw yma.

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dringo er budd Canser Dringo er budd Canser
Erthygl nesaf Perfformiwr comedi Cymraeg yn dod i HWB Cymraeg yn FOCUS Wales Perfformiwr comedi Cymraeg yn dod i HWB Cymraeg yn FOCUS Wales

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall Awst 12, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 12, 2025
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Landlords
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Awst 12, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English