Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ap newydd Covid-19 – lawrlwythwch yr ap er lles Wrecsam, a’r bobl rydych chi’n eu caru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ap newydd Covid-19 – lawrlwythwch yr ap er lles Wrecsam, a’r bobl rydych chi’n eu caru
ArallPobl a lle

Ap newydd Covid-19 – lawrlwythwch yr ap er lles Wrecsam, a’r bobl rydych chi’n eu caru

Diweddarwyd diwethaf: Medi 25, 2020 11:34 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Download the NHS app
RHANNU

Mae trigolion Wrecsam yn cael eu hannog i lawrlwytho ap newydd Covid-19 y GIG… a helpu i ddiogelu eu hanwyliaid yr hydref hwn.

Cynnwys
  • Lawrlwytho’r ap er lles Wrecsam
  • Gofyn i fusnesau arddangos codau QR
  • Nodweddion eraill
  • Lawrlwythwch yr ap rŵan

Wedi’i lansio heddiw, yr ap yma ydi’r arf diweddaraf i frwydro yn erbyn y feirws. Mae’n eich helpu chi i gofnodi’r llefydd rydych chi wedi’u hymweld â nhw drwy sganio codau QR mewn siopau, tafarndai, bwytai a lleoliadau eraill.

Os ydych chi wedi bod yn rhywle lle mae posibl eich bod chi wedi dod i gysylltiad â’r feirws, byddwch yn derbyn hysbysiad gan i GIG.

Os ydych chi’n derbyn prawf Covid-19 positif, byddwch yn gallu defnyddio’r ap i roi gwybod i olrheinwyr cyswllt lle’r ydych chi wedi bod – gwybodaeth a all fod yn hanfodol i helpu i atal lledaeniad y clefyd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.covid19.nhs.uk/”]LAWRLWYTHWCH YR AP RŴAN[/button]

Lawrlwytho’r ap er lles Wrecsam

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:

“Ynghyd â chadw pellter cymdeithasol, gall yr ap yma fod yn bwysig iawn yr hydref yma… i helpu olrheinwyr cyswllt i ganfod pobl a all fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws yn gyflym.

“Felly cofiwch ei lawrlwytho a’i ddefnyddio i sganio codau QR y mannau rydych chi’n ymweld â nhw.

“Mwyaf y defnyddwyr, mwya’r effaith.”

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Os oes gennych chi ffôn clyfar yna, os gwelwch yn dda, lawrlwythwch yr ap.

“Gwnewch hyn er eich lles eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau. Gwnewch hyn er lles y GIG. Er lles eich cymuned.

“Rydym ni’n mynd trwy’r argyfwng yma gyda’n gilydd a dw i’n hynod falch o’r ffordd y mae Wrecsam wedi chwarae ei rhan yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

“Daliwch ati. Cadwch at y rheolau cadw pellter cymdeithasol a defnyddiwch yr ap yma gymaint â phosibl.”

Sut mae defnyddio codau QR i fewngofnodi i lleoliad

Gofyn i fusnesau arddangos codau QR

Mae Llywodraeth Cymru a’r DU yn annog busnesau i arddangos codau QR… er mwyn i ymwelwyr sganio’r codau gyda’r ap.

Po fwyaf y busnesau sy’n arddangos y codau, y mwyaf fydd gallu defnyddwyr yr ap i gofnodi’r llefydd maen nhw wedi ymweld.

Gall busnesau yn Wrecsam sydd eisiau arddangos poster cod QR a chefnogi’r GIG, greu un a’i lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth y DU.
https://www.gov.uk/create-coronavirus-qr-poster

Nodweddion eraill

Mae’r ap yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion eraill, gan gynnwys:

  • Hysbysiadau os ydych chi wedi bod yn agos at ddefnyddwyr eraill sydd wedi derbyn prawf positif
  • Gwybodaeth am lefel y risg yn eich ardal cod post
  • Cymorth i wirio symptomau a phenderfynu a oes angen prawf arnoch chi
  • Cymorth i archebu prawf
  • Offeryn cyfri i’ch helpu chi gadw cyfrif os bydd arnoch chi angen hunan-ynysu

Lawrlwythwch yr ap rŵan

Mae’r ap ar gael ar Google Play (Android) a’r

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.covid19.nhs.uk/”]LAWRLWYTHWCH YR AP RŴAN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Byddwch yn drech na’ch cardfwrdd...Bydd wych. Ailgylcha. Byddwch yn drech na’ch cardfwrdd…Bydd wych. Ailgylcha.
Erthygl nesaf Bus Services Cyhoeddi cyllid sylweddol ar gyfer gwasanaethau bysiau cyhoeddus

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English