Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Paratoi am y gaeaf 2020 – 2021
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Paratoi am y gaeaf 2020 – 2021
Y cyngor

Paratoi am y gaeaf 2020 – 2021

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 26, 2020 10:38 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Winter
RHANNU

Fel bob amser, rydym yn gobeithio am y gorau ond yn paratoi am y gwaethaf gydag eira, rhew, gwyntoedd cryfion, neu beth bynnag a ddaw.

Cynnwys
  • “Graeanu neu beidio yn y gaeaf?”
  • “Helpwch lle fedrwch chi”

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod y trefniadau i gyd yn eu lle i’n helpu ni i ddelio â’r tywydd garw a gallu mynd o gwmpas y lle gyda chyn lleied o amhariad â phosibl.

Mae gennym fflyd o gerbydau graeanu wedi eu cynnal yn dda a digonedd o wirfoddolwyr gweithgar o’r Gwasanaethau Stryd sy’n camu i’r adwy i yrru’r cerbydau graeanu.

Mae gennym 10 llwybr graeanu ynghyd ag 7,500 tunnell o raean a gaiff ei gyflenwi bob tro byddwn yn graeanu’r ffyrdd.

Mae gennym gynlluniau ar waith hefyd i ddarparu ar gyfer cyfnodau estynedig o dywydd garw sy’n cynnwys cynlluniau i raeanu stadau tai (pan ei bod yn ddiogel i wneud hynny) cyn y casgliadau bin a chadw ardaloedd fel llety gwarchod a llwybrau ysgol mor glir a diogel â phosibl.

“Graeanu neu beidio yn y gaeaf?”

Dyma’r cwestiwn a wynebir sawl gwaith y dydd gan ein goruchwylwyr profiadol. Gallai graeanu’n rhy fuan olygu y bydd yn cael ei olchi i ffwrdd gan y glaw. Rhy hwyr – a gallai eich taith fod yn un llithrig.

Os hoffech wybod os yw’r cerbydau graeanu yn eich cyrraedd chi, cadwch lygad ar ein cyfrif Twitter – neu chwiliwch am #wxmgrit.

Paratoi am y gaeaf 2020 - 2021twitter.com/cbswrecsam

Rydym hefyd yn anfon hysbysiadau drwy system MyUpdates, sy’n anfon negeseuon e-bost yn uniongyrchol i danysgrifwyr.

Pan fydd disgwyl tywydd garw iawn, neu os ydym yn profi cyfnod hir o dywydd oer, rhewllyd, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am le i ddod o hyd i wybodaeth ar gasgliadau biniau ac ysgolion ar gau ac ati ar y blog hwn, ein gwefan ar www.wrecsam.gov.uk a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol felly cadwch lygad arnynt.

???? Cofiwch gael golwg ar eich cerbyd cyn mynd allan yn ystod neu cyn unrhyw dywydd garw. Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhoi cyngor ardderchog ond dylech gofio neilltuo rhagor o amser ar gyfer eich taith ac aros yn ddiogel.

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym mor barod ag y gallwn ni fod ac mae gyrwyr eisoes wedi bod yn gwirio eu lwybrau graeanu i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth hwn ac eisiau sicrhau ein bod yn cadw pawb i symud yn ystod tywydd garw, sy’n hanfodol ar gyfer yr economi lleol. Cymerwch ddigon o ofal yn ystod y gaeaf, sylwch ar rybuddion a chyngor tywydd a gweithredwch yn briodol.”

“Helpwch lle fedrwch chi”

Cadwch lygad hefyd ar eich perthnasau hŷn neu gymdogion diamddiffyn. Gall tywydd garw olygu y byddant yn wynebu mwy o anawsterau wrth wneud tasgau sylfaenol bob dydd fel siopa am hanfodion. A wnewch chi gynnig cymorth lle fedrwch chi –gallai wneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n methu mynd allan ar eu pen eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae pob un ohonom yn cael trafferth yn ystod tywydd garw gyda chludiant a thasgau bob dydd felly dychmygwch sut beth yw hyn i rywun gyda diffyg symudedd ac yn methu mynd allan o gwbl.

“Rydym hefyd mewn cyfnod anodd o gadw pellter cymdeithasol lle na allwn ni fynd i mewn i eiddo unrhyw un arall, felly rhowch ystyriaeth i sut y gallwch chi helpu gyda thasgau fel siopa hanfodol a chodi presgripsiynau. Peidiwch â bychanu faint o wahaniaeth y gallech chi ei wneud drwy helpu i gyflenwi siopa neu godi’r ffôn am sgwrs sydyn.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Digital Connectivity Gall y swydd TGCh hon wneud pobl yn hapus…allwch chi wneud y swydd?
Erthygl nesaf A483 Rossett to Gresford System Unffordd ar Ffordd Sir Amwythig ar 27 Hydref (yfory)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English