Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â gadael i wastraff fynd i wastraff – helpwch ni i ailgylchu!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Peidiwch â gadael i wastraff fynd i wastraff – helpwch ni i ailgylchu!
Pobl a lleY cyngor

Peidiwch â gadael i wastraff fynd i wastraff – helpwch ni i ailgylchu!

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 10, 2017 11:41 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Peidiwch â gadael i wastraff fynd i wastraff – helpwch ni i ailgylchu!
RHANNU

Wyddoch chi y gellid defnyddio eich gwastraff cartref i gynhyrchu ynni, neu i ddod yn eitemau cwbl newydd?

Mae Wrecsam yn gwneud yn dda iawn pan ddaw at ailgylchu – rydym eisoes yn agos iawn at beidio ag anfon dim gwastraff i’w dirlenwi, ac roedd ffigur ailgylchu blynyddol y llynedd dros 68 y cant.

Caiff gwastraff na gaiff ei ailgylchu, ei ailddefnyddio neu ei gompostio ei anfon i ffwrdd i gynhyrchu ynni ar gyfer Gorsafoedd Ynni, felly mewn gwirionedd caiff ein holl wastraff ei ddargyfeirio at ddefnydd da.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Mae rhai deunyddiau yn haws i’w hailgylchu nag eraill ac angen llai o brosesu ac ynni i’w torri i lawr i bwynt y gellir eu defnyddio eto.

Mae ein capasiti a’r dechnoleg rydym yn ei defnyddio wedi gwella dros y blynyddoedd – sy’n golygu y gall rhai pethau na chawsant eu hailgylchu’n boblogaidd, megis rhai mathau o becynnau plastig, gael eu hailgylchu yn awr.

Rydym am sicrhau bod pobl yn gwybod y diweddaraf am yr hyn y gellir ei ailgylchu a’r hyn na ellir ei ailgylchu.

Mae pethau y gallwn eu rhoi yn y casgliadau ailgylchu wythnosol yn cynnwys:

  • Plastig cymysg
  • Aerosolau
  • Tuniau a chaniau
  • Ffoil
  • Poteli gwydr a jariau
  • Papur a cherdyn
  • Gwastraff bwyd
  • Tecstilau

A bob pythefnos:

  • Gwastraff gardd (o’r bin olwynion gwyrdd)

P’un a gaiff deunyddiau y gellir eu hailgylchu eu rhoi mewn troli bocs neu yn y cynwysyddion traddodiadol, caiff yr un eitemau eu casglu y naill ffordd neu’r llall – cyn belled ag y caiff pethau eu storio’n gywir, ni ddylech brofi unrhyw broblemau.

Mae eitemau eraill y gall trigolion Wrecsam eu hailgylchu drwy fynd â nhw i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn cynnwys:

  • Coed a phren
  • Batris car
  • Eitemau trydanol a thiwbiau fflworoleuol
  • Craidd caled, pridd a rwbel
  • Gwastraff gardd
  • Metel sgrap
  • Offer mawr
  • Hen olew injan
  • Paent
  • Tetra Pak
  • Dodrefn
  • Teiars

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cymorth trigolion wedi bod yn hynod o werthfawr wrth i ni geisio cynyddu faint o ddeunydd gwastraff yr ydym yn ei ailgylchu, gan gyrraedd record o 68 y cant y llynedd.

“Gan gofio hynny, roeddem ni am atgoffa pobl bod modd iddyn nhw, mae’n debyg, ailgylchu mwy o eitemau nag y maen nhw’n ei feddwl.

“A hyd yn oed os na allwn ei gymryd yn ystod casgliadau ailgylchu gwastraff cartref bob pythefnos, gallwn ei dderbyn os caiff ei ollwng yn un o’n tri chanolfan gwastraff ac ailgylchu, neu’r siop ailddefnyddio yn yr Ystâd Ddiwydiannol”.

Edrychwch ar ein gwefan i gael mwy o fanylion.

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Perfformiwr comedi Cymraeg yn dod i HWB Cymraeg yn FOCUS Wales Perfformiwr comedi Cymraeg yn dod i HWB Cymraeg yn FOCUS Wales
Erthygl nesaf Estynnwch eich dyddiadur – mae’r Nadolig ar ei ffordd! Estynnwch eich dyddiadur – mae’r Nadolig ar ei ffordd!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English