Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut allwch chi wneud eich taith i’r ganolfan ailgylchu yn fwy cyflym, yn haws ac yn fwy diogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sut allwch chi wneud eich taith i’r ganolfan ailgylchu yn fwy cyflym, yn haws ac yn fwy diogel
Y cyngor

Sut allwch chi wneud eich taith i’r ganolfan ailgylchu yn fwy cyflym, yn haws ac yn fwy diogel

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 26, 2021 2:22 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Recycling
RHANNU

Mae’n debyg eich bod eisoes yn gwybod bod gennym nifer o reolau ar waith yn ein canolfannau ailgylchu i’ch cadw chi a’n staff yn ddiogel. Hyd yn oed os ydych chi’n gwybod, mae hi werth atgoffa’ch hun ohonynt cyn eich ymweliad nesaf.

Cynnwys
  • Didolwch eich ailgylchu cyn gadael
  • Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol
  • Dewch â dull adnabod gyda chi
  • Cofiwch fod rhaid archebu lle ym Mrymbo
      • Y rheolau’n llawn

Gallwch ddefnyddio’r rheolau yma i helpu i gynllunio eich taith fel bod popeth yn barod gennych pan fyddwch chi’n cyrraedd cyfleuster.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith yn y dair canolfan ailgylchu, mae hi’n bwysig iawn cynllunio eich siwrnai ymlaen llaw. Trwy wneud hyn, byddwch yn helpu i wneud eich ymweliad yn un mor gyflym â phosibl, gan arbed amser ac osgoi creu ciwiau diangen, ond yn bwysicach na dim, byddwch yn helpu i gadw’r safleoedd yn ddiogel i bawb eu defnyddio. Diolch.”

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

Didolwch eich ailgylchu cyn gadael

Didolwch y deunyddiau gwahanol cyn i chi deithio i’ch canolfan ailgylchu lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn barod i’w taflu’n syth i’r baeau cywir. Dyma un o’r prif ffyrdd y gallwch ein helpu.

Os na fyddwch chi’n didoli eich ailgylchu cyn i chi gyrraedd, byddwch ar y safle’n hirach nag sydd angen a bydd hyn yn arafu eich ymweliad.

Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol

Gyda mesurau Covid-19 ar waith, mae hi’n llawer anoddach i ni symud deunyddiau ailgylchadwy sydd wedi’u taflu i’r sgip gwastraff cyffredinol ar ein safleoedd, felly mae hi’n bwysig iawn sicrhau nad ydych chi’n dod ag unrhyw finiau du allai gynnwys unrhyw ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu.

Os byddwch chi’n dod ag unrhyw fagiau du i’r canolfannau ailgylchu, sicrhewch fod unrhyw boteli plastig, caniau ac ati sydd wedi cael eu rhoi ynddynt mewn camgymeriad yn cael eu tynnu allan ac yn cael eu rhoi gyda’ch ailgylchu ymyl palmant, neu mae modd iddynt gael eu hailgylchu yn y banciau ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu.

Dewch â dull adnabod gyda chi

Dim ond preswylwyr Wrecsam gaiff ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu, felly pan fyddwch chi’n cyrraedd y safleoedd, gofynnir i chi ddangos dull adnabod i ni fod yn sicr eich bod yn byw yn lleol.

Cofiwch ddod â rhywbeth gyda chi i ni ei wirio a’i fod wrth law er mwyn cyflymu’r broses.

Cofiwch fod rhaid archebu lle ym Mrymbo

Os mai Brymbo yw eich cyfleuster lleol, mae’n bwysig eich bod yn cynllunio eich ymweliad, gan y bydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad ymlaen llaw.

Er mwyn gwneud apwyntiad, gallwch eu ffonio ar 01978 801463.

Y rheolau’n llawn

I’ch atgoffa, dyma restr lawn o’r rheolau sydd ar waith yn y canolfannau ailgylchu:

  • Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19, neu os ydych chi’n cael eich gwarchod am fod gennych gyflwr iechyd presennol.
  • Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes gyda chi.
  • Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel. Ffoniwch 01978 801463 i drefnu apwyntiad os hoffech chi ddefnyddio safle Brymbo.
  • Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg.
  • Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch os gwelwch yn dda, dylai plant aros yn y car drwy’r amser, ni chaniateir anifeiliaid anwes ar y safle.
  • Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
  • Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
  • Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd swyddogion yn gwisgo camerâu corff, felly byddant yn rhoi gwybod am unrhyw achos i’r heddlu.
  • Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Shopping in Wrexham Parhau â chynlluniau i adfywio canol tref Wrecsam
Erthygl nesaf Ty Pawb People's Vote Mae’r bleidlais ar gyfer Gwobr y Bobl Tŷ Pawb yn awr ar agor!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English