Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Wrexham wedi gweld ymchwydd mewn mentrau cymdeithasol newydd yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae Wrexham wedi gweld ymchwydd mewn mentrau cymdeithasol newydd yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Busnes ac addysgY cyngor

Mae Wrexham wedi gweld ymchwydd mewn mentrau cymdeithasol newydd yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 22, 2021 5:48 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Dragon Dinners
RHANNU

Mae mwy a mwy o bobl wedi ail-werthuso eu dyfodol ac wedi gwneud y penderfyniad i lansio busnes ag amcanion a gwerthoedd cymdeithasol, yn enwedig y rhai a aeth ar ffyrlo neu a oedd mewn perygl o golli eu swyddi oherwydd pandemig Covid-19.

Datgelodd adroddiad gan Busnes Cymdeithasol Cymru yn 2019 fod y sector yn cyflogi 55,000 o bobl ledled y wlad, 36% yn fwy nag yn 2016, a’i fod yn werth £3.1bn.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Mae’r rhif hwnnw’n dal i godi, ac yng Ngogledd Cymru, mae Rhwydwaith Menter Gymdeithasol Wrecsam wedi bod wrth galon datblygiadau, gan gefnogi sefydliadau cymunedol a’r rhai sy’n ystyried y llwybr cynaliadwy i ddiwydiant.

Mae gan y sir fwy na 25 o fusnesau cymdeithasol mewn ystod o sectorau, o addysg a hamdden i gynhyrchion a gwasanaethau glanhau ecogyfeillgar, sy’n helpu’r rhai diamddiffyn a’r digartref.

Dywedodd Hayley Morgan, Swyddog Menter Busnes yng nghyngor Wrecsam, fod eu haelodaeth yn cynnwys budd-ddeiliaid, addysgwyr, elusennau, a mentrau sy’n rhannu arfer gorau, gwybodaeth ariannu, cyngor a gwybodaeth am adnoddau a hyfforddiant perthnasol.

Maen nhw hefyd yn gobeithio gweithio mwy gyda chwmnïau presennol mewn gwahanol feysydd gan geisio ail-werthuso eu modelau busnes a rhoi yn ôl i’w cymunedau.

“Rydyn ni wedi cael cymaint o ymholiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo cyntaf pan oedd hwb gwirioneddol yn ysbryd y gymuned gyda phobl yn cynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol, yn dosbarthu prydau bwyd a phresgripsiynau i gymdogion diamddiffyn a mwy,” meddai Hayley.

“Arweiniodd hynny, ynghyd â’r amser ychwanegol yr oedd gan bobl, at lawer o fyfyrio a goleuedigaeth.

“O ganlyniad, bu cynnydd yn nifer y bobl yn cychwyn busnes, yn enwedig busnesau sy’n rhoi yn ôl i’w cymunedau ac yn defnyddio’r elw er daioni, sydd wedi bod yn duedd ledled Cymru.

“Gyda chefnogaeth gan Busnes Cymdeithasol Cymru, rydym yn eu helpu i sefydlu ac mae’r ymateb wedi bod mor gadarnhaol. Cafwyd rhai straeon llwyddiant go iawn eisoes mewn gwahanol sectorau a llawer o ewyllys da oherwydd bod mentrau cymdeithasol yn helpu i adfywio cymunedau a threfi, gan ddod â gwerth cymdeithasol ac economaidd.”

Yn eu plith mae Dragon Dinners Ltd, gwasanaeth dosbarthu prydau poeth a grëwyd gan Jodie Murphy a Nicola Charles-Paget fis Chwefror diwethaf.

Yn gyn Reolwyr Gwaith Cymdeithasol ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, roedden nhw’n ymwybodol o’r galw am ddarpariaeth prydau poeth i bobl dros 55 oed yn Wrecsam.

“Yn ein rolau blaenorol, roeddem yn aml yn rhwystredig gyda’r diffyg dewis ar gael i bobl dros 55 oed ar draws y fwrdeistref,” meddai Jodie.

“Yn syml, roedd angen prydau maethlon poeth ar lawer o bobl, ond yn aml bydden nhw’n cael pecyn gofal ffurfiol a bwyd microdon wedi’i rewi.

“Wedi ein cymell gan ein hangerdd i wneud gwahaniaeth, fe benderfynon ni gymryd y naid a mynd amdani. Roedd yn benderfyniad peryglus a brawychus gan ein bod ein dau mewn swyddi diogel, ond roeddem yn teimlo’n hyderus y gallem greu rhywbeth arbennig ar gyfer y gymuned.”

Ychwanegodd: “Gan ddechrau gyda thri chwsmer – mae gennym bellach dros 50 y dydd – i ddechrau, ymgymerodd Nicola a minnau â’r holl rolau yn y busnes ond wrth i Dragon Dinners dyfu, a chyda Chyllid y Loteri Genedlaethol, roeddem yn gallu ehangu.  Rydym bellach yn cyflogi chwech o staff ac yn gweithredu allan o gegin fasnachol ar ystâd ddiwydiannol y dref, gan wasanaethu Wrecsam a Sir y Fflint.

“Mae’r Rhwydwaith wedi bod yn gefnogaeth wych gyda hyfforddiant a chyllid ac wedi rhoi arweiniad i ni pan oedd ei angen arnom. Rydym yn bwriadu parhau i ddatblygu ein gwasanaethau a’n cefnogaeth i’r rheini â dementia ac anghenion gofal ychwanegol, gan ddod o hyd i gynhwysion lleol a meithrin ein rhwydwaith yn y rhanbarth hwn.”

Dylai unrhyw un sydd am ddilyn ôl eu traed ymuno â’r rhaglen Archwilio Menter Gymdeithasol a ariennir yn llawn, a ddarperir gan Academi Menter Gymdeithasol Cymru. Cynhelir y sesiynau ar-lein byr ar 23 Chwefror a 2 Mawrth.

Mae’r sefydliad ym Mochdre – a weithredir gan Creu Menter mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru – yn cynnig cyfle dysgu a datblygu unigryw sy’n canolbwyntio ar ddysgu ymysg cymheiriaid. Cynhelir sesiynau ymarferol, rhyngweithiol a grwpiau bach wedi’u hwyluso gan entrepreneuriaid lleol ac arweinwyr busnes.

Meddai Rheolwr y Ganolfan Ranbarthol, Trish Thomas: “Nid oes ots pa fath o fusnes sydd gennych, gallwch weithio tuag at gael effaith gymdeithasol yn eich cymuned tra’n parhau i wneud elw.

“Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i ddysgwyr archwilio’r model menter gymdeithasol a sut y gall fod o fudd i’w busnes. Mae hefyd yn gyfle i rannu syniadau a thrafod heriau cyfredol mewn amgylchedd cefnogol, gan helpu busnesau i adeiladu gwytnwch a dod yn fwy cynaliadwy yn ystod yr amseroedd anodd hyn.”

Mae Rhwydwaith Menter Gymdeithasol Wrecsam wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gael mwy o wybodaeth ac i ymuno â’r seminarau am ddim, anfonwch e-bost at socialenterprise@wrexham.gov.uk

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gŵyl Geiriau Wrecsam 2021 Gŵyl Geiriau Wrecsam 2021
Erthygl nesaf Yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 fyddwn yn buddsoddi £58.9 miliwn yn ein stoc dai (dros 11,000 o eiddo) Yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 fyddwn yn buddsoddi £58.9 miliwn yn ein stoc dai (dros 11,000 o eiddo)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English