Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd – ‘Mae gwastraffu bwyd yn bwydo newid hinsawdd’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd – ‘Mae gwastraffu bwyd yn bwydo newid hinsawdd’
Pobl a lleY cyngor

Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd – ‘Mae gwastraffu bwyd yn bwydo newid hinsawdd’

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 26, 2021 2:35 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd – ‘Mae gwastraffu bwyd yn bwydo newid hinsawdd’
RHANNU

Mae hi’n Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd yr wythnos yma (1-7 Mawrth) – ymgyrch i geisio lledaenu’r neges mai gwastraffu bwyd ydi un o’r ffactorau mwyaf sy’n cyfrannu at newid hinsawdd.

Cynnwys
  • 10 awgrym defnyddiol!
  • Beth fedra i ei roi yn fy nghadi bwyd?

Rydym ni’n llwyr gefnogi’r ymgyrch hon yn Wrecsam ac mae arnom ni eisiau chwarae ein rhan i leihau gwastraff bwyd. Yma yng Nghyngor Wrecsam mae gennym ni Gynllun Gweithredu Datgarboneiddio ac rydym ni’n gobeithio bod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae angen llawer o bethau, gan gynnwys dŵr, tir, ynni, amser a chludiant i gynhyrchu ein bwyd ac felly mae’n bwysig iawn nad ydym ni’n gwastraffu bwyd yn ddiangen. Mae rhai o’r ffigyrau gwastraff bwyd yn anhygoel… pob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig mae 4.5 miliwn tunnell o fwyd bwytadwy yn cael ei wastraffu – digon i wneud 10 miliwn pryd bwyd.

“Bydd pob aelwyd yn gwastraffu rhywfaint – fel crwyn llysiau ac esgyrn, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y pethau yma’n cael eu hailgylchu. Mae llawer iawn ohonom ni yma yn Wrecsam yn ailgylchu ein gwastraff bwyd, ond nid da lle gellir gwell.

“Pan fyddwch chi yn yr archfarchnad, ceisiwch brynu’r pethau sydd arnoch chi eu hangen yn unig, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ailgylchu popeth sydd gennych chi dros ben. Diolch i bawb sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd; ac i’r rheiny ohonoch chi sydd ddim yn gwneud hynny – dechreuwch chwarae eich rhan.”

Rhedeg allan o fagiau cadi? Clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casglu ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi. Mae mor syml â hynny!

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

10 awgrym defnyddiol!

Eleni, ar gyfer Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd mae Love Food Hate Waste wedi llunio rhestr o 10 peth y gallwch chi ei wneud i atal gwastraff bwyd rhag bwydo newid hinsawdd:

1. Dyddiadau difyr! Mae’r dyddiad defnyddio neu’r ‘use by date’ yn ymwneud â diogelwch – ddylech chi ddim bwyta’r bwyd ar ôl y dyddiad yma (hyd yn oed os ydi o’n edrych neu’n arogli’n iawn). Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ‘best before’ yn ymwneud ag ansawdd – er na fydd y bwyd ar ei orau, mi fydd yn dal yn ddiogel i chi ei fwyta am beth amser i ddod.

2. Defnyddio pob tamaid. Ydych chi’n taflu crystiau a choesau brocoli i’r bin? Mae dros ddwy ran o dair o’r bwydydd rydym ni’n eu gwastraffu yn hollol fwytadwy, felly mae defnyddio pob rhan fwytadwy o’ch bwyd yn hanfodol. Beth am beidio â phlicio’r tatws pan fyddwch chi’n gwneud tatws stwnsh – mi fyddwch chi’n arbed amser hefyd!

3. Oerwch yr oergell. Mae cyfartaledd tymheredd oergelloedd y Deyrnas Unedig bron yn 7°C, ond mae bwydydd yn para’n hirach os ydych chi’n eu cadw nhw dan 5°C.

4. Prydau perffaith. Dwylo i fyny pwy sy’n gwneud gormod o reis neu basta? Mae’n hawdd iawn gwneud, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud yn siŵr nad ydych chi’n coginio gormod. Er enghraifft, mae mwg o reis sych yn ddigon i bedwar oedolyn.

5. Silff-lun. Os nad ydych chi’n rhy hoff o ‘sgwennu rhestrau siopa beth am dynnu llun o’ch oergell/silffoedd bwyd yn lle? Bydd hyn yn eich stopio chi rhag prynu pethau sydd gennych chi’n barod.

6. Synnwyr cyffredin. Bydd y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau yn para’n hirach yn yr oergell. Yr eithriadau allweddol ydi bananas a phinafal (cadwch y rhain ar y cownter), a nionod a thatws (cadwch y rhain mewn lle oer, tywyll a sych – fel cwpwrdd)!

7. Rhewi cyn y dyddiad defnyddio. Fe allwch chi rewi unrhyw fwyd gyda dyddiad defnyddio, gan gynnwys cig, hyd at y dyddiad hwnnw. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn os ydi’ch cynlluniau’n newid ar fyr rybudd – cyn i chi archebu tecawê ar frys cofiwch edrych yn yr oergell am unrhyw beth y medrwch chi ei rewi ar gyfer diwrnod arall.

8. Yr hambwrdd ciwbiau rhew – arwr y rhewgell. Gormod o lefrith, dim digon o amser? Tywalltwch y llefrith sydd gennych chi dros ben i mewn i’ch hambwrdd ciwbiau rhew a’i roi yn y rhewgell. Fe allwch chi ddefnyddio hambwrdd ciwbiau rhew i rewi perlysiau ffres hefyd. Torrwch nhw a rhowch nhw yn yr hambwrdd, gan ychwanegu ychydig o olew – bydd gennych chi wedyn ddognau hawdd i’w hychwanegu i’r badell pan fyddwch chi’n coginio nesaf.

9. Bara blasus. Mae bara yn rhewi’n dda. Rhowch eich torth dafellog yn y rhewgell a phan fydd arnoch chi angen bara fe allwch chi estyn tafell a’i thostio’n sydd o’r rhewgell. Awgrym bach arall: tapiwch eich torth ar y cownter cyn i chi ei rhewi fel nad ydi’r tafellau yn glynu at ei gilydd.

10. Gwrthrychau Rhewedig Anhysbys. Cyn i chi roi bwyd dros ben yn y rhewgell cofiwch labelu’r bag/cynhwysydd fel eich bod chi’n gwybod beth sydd ynddo a phryd y rhoddoch chi o yn y rhewgell.

Mae gwefan Love Food Hate Waste yn llawn ryseitiau blasus a hyd yn oed mwy o awgrymiadau ar gyfer manteisio i’r eithaf ar eich bwyd.

Beth fedra i ei roi yn fy nghadi bwyd?

I weld rhestr o bethau y gallwch chi eu rhoi yn eich cadi bwyd, darllenwch yr erthygl blog yma…

Beth allaf i ei ailgylchu fel gwastraff bwyd?

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Foundation Phase Diweddariad Covid-19 – mae’r cyfyngiadau yn dal ar waith wrth i ddisgyblion y cyfnod sylfaen ddychwelyd i’r ysgol
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio am Covid-19 – mae pethau’n gwella … ond nid ydym allan ohoni eto

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English