Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen #DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Newidiwch i system e-filio'r dreth gyngor – mae'n gyflym, yn hawdd ac yn gyfleus
Newidiwch i system e-filio’r dreth gyngor – mae’n gyflym, yn hawdd ac yn gyfleus
Y cyngor
cyn ac ar ôl llwybr yr ystâd
Adran Dai Cyngor Wrecsam i flaenoriaethu Rheoli Ystadau
Y cyngor
Prifysgol Wrecsam yn dathlu carreg filltir ymchwil fawr
Prifysgol Wrecsam yn dathlu carreg filltir ymchwil fawr
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Pêl-droed dan Gerdded - cam tuag at drawsnewid iechyd sydd wedi bod yn ‘achubiaeth' 
Pêl-droed dan Gerdded – cam tuag at drawsnewid iechyd sydd wedi bod yn ‘achubiaeth’ 
Pobl a lle Y cyngor
Pentwr bach o geiniogau arian ar ben nodyn £10 wedi'i blygu wrth ymyl cyfrifiannell ar ddesg
Cymorth ar gael i denantiaid y Cyngor gan ein Swyddogion Cynhwysiant Ariannol
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > #DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad
Arall

#DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad

Diweddarwyd diwethaf: 2021/03/16 at 2:26 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Bonfires
RHANNU

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy’n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny’n bosibl, dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2016 i fynd i’r afael â’r achosion o gynnau tanau glaswellt yn fwriadol ledled Cymru, hefyd yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn tanau damweiniol, a achosir yn aml o ganlyniad i’n hymddygiad diofal ein hunain pan fyddwn allan yn mwynhau yng nghefn gwlad.

Yn ystod 2020, deliodd y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru â 2,253 o danau glaswellt. Er bod hyn yn gynnydd bach o’i gymharu â 2019, roedd nifer y tanau damweiniol yn ystod 2020 wedi cynyddu 20%. Priodolwyd y cynnydd hwn yn rhannol i’r nifer ohonom a dreuliodd fisoedd y Gwanwyn a’r Haf yn mwynhau ein cefn gwlad lleol oherwydd y cyfyngiadau symud a oedd ar waith o ganlyniad i bandemig COVID-19 – ac wrth i ni gychwyn ar flwyddyn arall lle mae’n debygol y byddwn yn aros yma yng Nghymru ar gyfer ein gwyliau, mae’r Tasglu yn awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn modd diogel, gan sicrhau ein bod yn diogelu’r cefn gwlad, y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd gwerthfawr rydym oll mor falch i’w cael ar y stepen drws.

Dywedodd Mydrian Harries, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw, “Rwy’n credu ei bod yn drawiadol dros ben ein bod yn lansio ein hymgyrch ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni wrth i ni apelio at ein natur wladgarol, gan erfyn ar bawb i gydweithio i ddiogelu’r glaswelltir a’r ardaloedd cefn gwlad yr ydym i gyd mor ffodus i’w cael ar ein stepen drws.

“Er ein bod yn gwybod bod y tywydd cynnes a brofwyd gennym yn ystod misoedd cynnar yr haf y llynedd wedi cyfrannu at y cynnydd bach mewn tanau glaswellt ledled Cymru, rydym hefyd yn gwybod bod nifer y tanau a gynnwyd yn ddamweiniol wedi cynyddu yn ogystal. “Er bod damweiniau’n digwydd, gellir eu hosgoi hefyd, a bydd ymgyrch eleni yn canolbwyntio ar ein haddysgu ni i gyd ynghylch rhai o’r camau bach y gallwn eu cymryd i sicrhau nad ydym yn achosi tân glaswellt trwy ddamwain.

“Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu ein neges, er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai eraill yn ein cymunedau sy’n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â throseddau o’r fath i ffonio 101, neu i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111”.

Mae’r Ymgyrch hefyd yn parhau â’i gwaith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, gan eu hatgoffa, er y gallant losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth yn ardaloedd yr ucheldir), mae’n rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi’n ddiogel. Mae’n anghyfreithlon llosgi y tu allan i’r tymor llosgi, a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am #DawnsGlaw 2021 trwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru https://www.tancgc.gov.uk/cym/newyddion/o-dan-sylw/dawnsglaw/ lle gallwch hefyd gael hyd i awgrymiadau diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i’w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda’n gilydd gallwn atal tanau glaswellt a diogelu ein cefn gwlad a’n gwlad.

Cofiwch – Os ydych allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Rhannu
Erthygl flaenorol Nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd - 16 Mawrth 2021 Nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd – 16 Mawrth 2021
Erthygl nesaf Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Newidiwch i system e-filio'r dreth gyngor – mae'n gyflym, yn hawdd ac yn gyfleus
Newidiwch i system e-filio’r dreth gyngor – mae’n gyflym, yn hawdd ac yn gyfleus
Y cyngor Mawrth 24, 2026
cyn ac ar ôl llwybr yr ystâd
Adran Dai Cyngor Wrecsam i flaenoriaethu Rheoli Ystadau
Y cyngor Mawrth 24, 2026
Prifysgol Wrecsam yn dathlu carreg filltir ymchwil fawr
Prifysgol Wrecsam yn dathlu carreg filltir ymchwil fawr
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Mawrth 24, 2026
Pêl-droed dan Gerdded - cam tuag at drawsnewid iechyd sydd wedi bod yn ‘achubiaeth' 
Pêl-droed dan Gerdded – cam tuag at drawsnewid iechyd sydd wedi bod yn ‘achubiaeth’ 
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llay coal tip in Wrexham
Arall

Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo

Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
Arall

12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!

Mawrth 12, 2026
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Arall

Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam

Mawrth 6, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Arall

Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu

Mawrth 4, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English