Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â gwastraffu gwastraff bwyd y gwanwyn hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Peidiwch â gwastraffu gwastraff bwyd y gwanwyn hwn
Y cyngor

Peidiwch â gwastraffu gwastraff bwyd y gwanwyn hwn

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 30, 2021 1:00 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Food Waste Recycling Caddy
RHANNU

Iawn, efallai fod ‘peidiwch â gwastraffu gwastraff bwyd’ yn swnio braidd yn od i gychwyn, ond mae’n gwneud synnwyr pan feddyliwch chi amdano, yn enwedig rŵan ein bod ni’n cyrraedd y gwanwyn, a gobeithio addewid o dywydd gwell ar droed.

Cynnwys
  • Tywydd cynnes = biniau drewllyd
  • Beth ellir ei ailgylchu?

Mae llawer ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd bellach, sy’n wych. Ond yn anffodus, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n preswylwyr yn ailgylchu bwyd O GWBL ac maen nhw’n rhoi bwyd dros ben yn eu gwastraff cyffredinol. Os ydych chi’n un o’r bobl hyn, ceisiwch dorri’r cylch – mae’n well o lawer i ni, ond mae’n well o lawer i chi hefyd.

Get the latest COVID-19 vaccination roll out across Wrexham and North Wales

Tywydd cynnes = biniau drewllyd

Ydi, mae hyn yn wir. Bydd biniau bob amser yn drewi i ryw raddau, ond bydd biniau sydd â darnau o fwyd wedi’u gadael ynddyn nhw am bythefnos yn ystod y misoedd cynhesaf yn drewi’n waeth o LAWER. Cofiwch, byddwn ni’n casglu eich deunydd ailgylchu bob wythnos, felly os byddwch chi’n ailgylchu gwastraff bwyd, dim ond am wythnos ar y mwyaf y bydd yn aros yn eich cadi…os na fyddwch chi’n ailgylchu eich bwyd dros ben, bydd y saith diwrnod ychwanegol hynny yn eich gwastraff cyffredinol yn gwneud gwahaniaeth drewllyd iawn.

Gan gadw hyn mewn cof, gofynnwch i’ch hun eto ‘pam nad ydw i’n ailgylchu fy mwyd dros ben?’ Oes gennych chi ateb? Ai un o’r rhain yw’r ateb?

• I arbed amser efallai? Anghywir. Mae rhoi bwyd dros ben mewn cadi bwyd yn cymryd yr un faint o amser â’u rhoi nhw yn unrhyw le arall.

• Mae bagiau i’r cadi yn ddrud. Nac ydyn, rydym wedi bod yn darparu bagiau rhad ac am ddim i’r cadis ers tro bellach. Pan fydd capasiti yn ein rowndiau, bydd ein criwiau’n darparu bagiau bwyd (ar gylch parhaus). Efallai bydd rhai ohonoch wedi cael rholyn pan gawsoch gasgliad gwastraff bwyd a deunydd ailgylchu yn unig yn ddiweddar. Neu, gall unrhyw un sydd angen rholyn newydd glymu bag gwag i handlen eu cadi ar eu diwrnod casglu nesaf, a bydd y criw ailgylchu yn rhoi rholyn newydd i chi yn rhad ac am ddim.

• Mae fy nghadi bwyd wedi torri. Dim problem, gallwch wneud cais am un newydd am ddim ar ein gwefan.

Felly does ddim rheswm pam na ddylech chi ailgylchu gwastraff bwyd.

Beth ellir ei ailgylchu?

Gobeithio eich bod yn awyddus i ailgylchu bwyd bellach, felly byddwch chi am wybod beth ellir ei ailgylchu yn eich cadi. Peidiwch â phoeni, rydym yma i helpu. Yn ogystal â phopeth y byddwch chi’n ei wybod eisoes, edrychwch ar y rhestr hon o rai o’r bwydydd na fyddwch chi wedi meddwl amdanynt o reidrwydd, fel:

• Bwyd sydd dros y dyddiad
• Esgyrn a charcasau
• Plisgyn wyau
• Croen banana (a philion eraill)
• Calonnau afalau
• Coffi mân
• Bwydydd amrwd
• Bwydydd sydd wedi llwydo
• Crafion platiau
• Prydau parod heb eu bwyta
• Bwyd brys (e.e. sglodion a phitsas)
• Pysgod cregyn

Pethau nad ydyn ni eisiau i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd ydi hylifau (fel olew neu lefrith), pecynnau, bagiau plastig, clytiau neu wastraff gardd.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i www.wrecsam.gov.uk/ailgylchu

???? Get the facts…read the latest NHS Wales Covid-19 vaccination info for Wrexham and North Wales ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bcuhb.nhs.wales/covid-19/covid-19-vaccination-information/vaccinations-statistics/ “]GET THE FACTS[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi’n ddinesydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir sy’n byw yng Nghymru? Peidiwch â cholli’r dyddiad cau i wneud cais am statws preswylydd sefydlog Ydych chi’n ddinesydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir sy’n byw yng Nghymru? Peidiwch â cholli’r dyddiad cau i wneud cais am statws preswylydd sefydlog
Erthygl nesaf Active Wrexham Daliwch i symud dros y Pasg gyda Wrecsam Egnïol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English