Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Clirio er mwyn helpu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Clirio er mwyn helpu
Y cyngor

Clirio er mwyn helpu

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 8, 2021 12:14 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Re-use shop, Bryn Lane Recycling Centre
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam a FCC Environment yn annog preswylwyr Wrecsam i ‘glirio er mwyn helpu’ y gwanwyn hwn drwy gyfrannu eitemau diangen o safon i’w hail-werthu yn y siop ailddefnyddio.

Wedi’i lleoli yng nghanolfan ailgylchu gwastraff tŷ Lôn y Bryn mae’r elw a wneir yn y siop ailddefnyddio yn mynd i Hosbis Tŷ’r Eos, sydd yn darparu cymorth a chefnogaeth i’r rheiny sy’n byw gyda salwch sy’n cyfyngu ar fywyd.

Gall preswylwyr dacluso a chael gwared ar eu heitemau mewn unrhyw un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Tŷ Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Lôn y Bryn, Y Porthdy (Brymbo) a Phlas Madog – sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos yn ogystal â thrwy gydol y cyfnod clo diwethaf. Dilyn mesurau diogelwch COVID yno fel gwisgo masg a chadw at reolau cadw pellter cymdeithasol.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Gyda siopau elusen dal ar gau mae gollwng eich eitemau diangen yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Tŷ Wrecsam yn ffordd berffaith i wagio dipyn ar eich cypyrddau a helpu achos da lleol ar yr un pryd. Yr eitemau o ddewis yw dodrefn, beiciau, nwyddau trydanol a chyfarpar cegin. Mae’r cyfan yn cael eu gwirio a’u profi cyn eu hail-werthu yn Lôn y Bryn, sydd ar fin ail-agor ar 12 Ebrill ynghyd â siopau manwerthu dianghenraid eraill.

Meddai Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rydym yn croesawu preswylwyr Wrecsam i gyfrannu nwyddau diangen mewn unrhyw un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff tŷ. Drwy gyfrannu a phrynu yn ein siopau ailddefnyddio rydych yn rhoi bywyd newydd i eitemau yn ogystal â dangos cefnogaeth i’r hosbis sydd yn helpu cymaint o bobl ar draws y sir.”

Ychwanegodd Carlos Hernandez Laste, Rheolwr Cytundeb yn FCC Environment: “Gyda chyfraniadau yn cael eu derbyn ar draws safleoedd Wrecsam, mae’n eithriadol o hawdd i breswylwyr ddod o hyd i gartref newydd i nwyddau diangen sydd yn llenwi eu cartrefi. Edrychwn ymlaen at ailagor y siop ailddefnyddio ac annog pobl leol i ddangos eu cefnogaeth, p’un ai fod hynny trwy gyfrannu neu brynu.”

Mae gan siop ailddefnyddio Lôn y Bryn ddewis o nwyddau trydanol, teganau, dodrefn a llyfrau i’r rheiny sy’n chwilio am fargen ac sydd hefyd eisiau cefnogi achos da gwerthfawr.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.wrecsam.gov.uk/service/ffyrdd-eraill-o-ailgylchu-yn-wrecsam/canolfan-ailgylchu-gwastraff-y-cartref

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Town Centre Masnachwyr yn barod i groesawu ymwelwyr yn ôl i ganol y dref
Erthygl nesaf Census 2021 Cyfrifiad 2021 – llythyrau atgoffa, ymweliadau staff maes a chyngor ar sgamiau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English