Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gallwch archebu ymweliad â Llyfrgell Wrecsam o ddydd Llun nesaf (Ebrill 19)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gallwch archebu ymweliad â Llyfrgell Wrecsam o ddydd Llun nesaf (Ebrill 19)
Busnes ac addysgY cyngor

Gallwch archebu ymweliad â Llyfrgell Wrecsam o ddydd Llun nesaf (Ebrill 19)

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 16, 2021 12:53 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Library
RHANNU

O’r dydd Llun hwn (Ebrill 19) fe fyddwch yn gallu archebu ymweliad â Llyfrgell Wrecsam.

Fe fydd llyfrgelloedd yn parhau i ddarparu ‘gwasanaeth archebu a chasglu’, ond mae’r llacio diweddar ar y cyfyngiadau yng Nghymru yn golygu ein bod nawr yn barod i ailagor yr adeilad ar sail cyfyngedig.

Drwy ffonio 01978 292090 neu e-bostio library@wrexham.gov.uk fe fyddwch yn gallu trefnu apwyntiad 30 munud i alw i mewn i bori drwy’r llyfrau, benthyg a dychwelyd llyfrau.

Os ydych yn ymweld, dilynwch yr awgrymiadau hyn i helpu i gadw pawb yn ddiogel.

  • Sicrhewch eich bod yn archebu ymlaen llaw, a chadwch at eich amser dynodedig.
  • Dim ond ar eich pen eich hun neu gydag unigolyn arall o’ch aelwyd neu eich swigen gefnogaeth y gallwch ymweld.
  • Cadwch at y rheolau cadw pellter cymdeithasol, gwisgwch orchudd wyneb a defnyddiwch y diheintydd dwylo a gaiff ei ddarparu.
  • Sicrhewch eich bod wedi gadael yr adeilad cyn bod eich cyfnod o 30 munud wedi dod i ben.
  • Os oes gennych unrhyw symptomau, peidiwch ag ymweld os gwelwch yn dda (hyd yn oed os ydych wedi archebu lle) – hunan ynyswch a threfnwch brawf.

Ni fydd y llyfrgell yn cynnig y cyfle i lungopïo, sganio nac yn cynnig mynediad at gyfrifiaduron cyhoeddus – dim ond pori drwy’r llyfrau, benthyg a dychwelyd llyfrau fyddwch chi’n gallu ei wneud.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Ail-agor yn raddol

Yn ddiweddar rhoddodd Llywodraeth Cymru ganiatâd i lyfrgelloedd ailagor, ac mae’r system archebu yn rhan o ddull graddol a gaiff ei fabwysiadu yn Wrecsam.

Dywedodd Shân Cooper sy’n goruchwylio gwasanaethau llyfrgell y cyngor:

“Fe fydd y system archebu yn ein helpu ni i reoli niferoedd yr ymwelwyr…fel y gallwn sicrhau fod yna ddigon o ofod i gadw pellter cymdeithasol.

“Rydym eisiau ailagor ein llyfrgelloedd yn y dull mwyaf diogel posibl ac, os yw’r system yn gweithio’n dda yn Wrecsam, fe fyddwn yn ei gyflwyno mewn llyfrgelloedd eraill yn y fwrdeistref sirol y mis nesaf (Mai).

“Yn y cyfamser fe fydd ein holl lyfrgelloedd yn parhau i gynnig gwasanaethau archebu a chasglu, sydd wedi profi’n boblogaidd yn ystod y pandemig.”

I ganfod mwy am y drefn archebu a chasglu a gwasanaethau llyfrgell ar-lein eraill, ewch i wefan y cyngor.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “]Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Henblas Street Toiledau’r Orsaf Fysus a Stryt Henblas ar agor
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn Briffio Covid-19 – mae siopau ar agor a’r ysgolion yn ôl (llwyddiant hyd yn hyn)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English