Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hwb o £23,000 i Bartneriaeth Gwyrdd Dyffryn Clywedog dros Natur
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Hwb o £23,000 i Bartneriaeth Gwyrdd Dyffryn Clywedog dros Natur
Y cyngor

Hwb o £23,000 i Bartneriaeth Gwyrdd Dyffryn Clywedog dros Natur

Diweddarwyd diwethaf: Mai 10, 2021 12:48 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Green Valley
RHANNU

Bydd Partneriaeth Gwyrdd Dyffryn Clywedog dros Natur yn derbyn grant o £23,000 i annog pobl leol i ddod i adnabod eu hardal a mwynhau natur drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau hwyl ac addysgol.

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn rhedeg y prosiect gyda sefydliadau eraill gan gynnwys Cyfeillion Melin y Nant, Cyfeillion Melin y Brenin, Ymddiriedolaeth Chwarel y Mwynglawdd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Brymbo.

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Coed Cadw, Clwb Ogofa Gogledd Cymru a Cynghorau Cymuned Coedpoeth a’r Mwynglawdd hefyd yn gysylltiedig.

Ariennir y prosiect gan Gynllun Meithrin Capsiti yr Adferiad Gwyrdd, Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei redeg gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae llwybr Dyffryn Clywedog yn arwain o’r rhostiroedd uwchben Chwarel y Mwynglawdd i Felin y Brenin ychydig i’r de o ganol tref Wrecsam, ac mae’n cynnwys nifer o adeiladau hanesyddol ac atyniadau naturiol, ac mae gan yr holl sefydliadau a enwyd ddiddordeb yn y dyffryn.

Prif nod Partneriaeth Gwyrdd Dyffryn Clywedog dros Natur yw rhoi cymorth i’r sefydliadau hyn er mwyn iddynt gynyddu eu capasiti drwy wella eu llywodraethiant, cryfhau eu sefyllfa ariannol, meithrin sgiliau ac ymgysylltu â’r gymuned gan sicrhau bod gan y sefydliadau a’r dyffryn sylfaen fwy cynaliadwy.

Bydd y prosiect yn helpu i wella cynaliadwyedd asedau Dyffryn Clywedog ar gyfer y gymuned drwy ymgysylltu â phobl leol a’u galluogi i fwynhau eu hamgylchedd lleol drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau hwyl ac addysgol. Bydd y digwyddiadau yn gyfle hefyd i ymgynghori â’r gymuned yn y safleoedd. Bydd gwella mwynhâd a dealltwriaeth pobl leol o’u hardal leol yn dod â buddion ychwanegol o ran lles a chydlyniant cyhoeddus.

Hefyd, bydd cyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cynnal amrywiol yn yr awyr agored ar safleoedd ar draws Dyffryn Clywedog, gan gynnwys gwella’r amodau ar gyfer blodau gwyllt brodorol a helpu i leihau ac atal lledaeniad rhywogaethau goresgynnol anfrodorol.

Dywedodd Richard Aram Rheolwr Sgiliau Gwyrdd a Rheolwr Prosiectau Amgylcheddol Groundwork Gogledd Cymru: “Diolch i arian grant Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru byddwn yn gallu adeiladu ar gynaliadwyedd y sefydliadau ar hyd Dyffryn Clywedog.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn neu er mwyn cymryd rhan, cysylltwch ag Amy Jones ar 01978 757524 neu e-bostiwch amy.jones@groundworknorthwales.org.uk

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn a phrosiectau eraill Groundwork Gogledd Cymru, ewch i www.groundworknorthwales.org.uk neu cadwch lygad am Groundwork Gogledd Cymru ar eich cyfryngau cymdeithasol.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Music Tutors Tiwtoriaid cerddoriaeth yn cael eu galw’n arwyr
Erthygl nesaf Ruabon Station Mynediad i’r anabl yng Ngorsaf Rhiwabon yn dal yn uchel ar yr agenda yn 2021

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English