Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cais am gyllid i wella lein Wrecsam-Bidston
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cais am gyllid i wella lein Wrecsam-Bidston
Busnes ac addysgY cyngor

Cais am gyllid i wella lein Wrecsam-Bidston

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 23, 2021 12:52 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
RHANNU

Gall cais diweddar am £30 miliwn i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU arwain at welliannau hir ddisgwyliedig i lein Wrecsam-Bidston, sy’n cludo teithwyr i ac o ogledd orllewin Lloegr.

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r rhwydwaith rheilffordd yn diwallu anghenion busnesau, pobl a chymunedau lleol.  Ers peth amser bellach rydym ni fel Cyngor wedi ymgyrchu a lobio am welliannau i’r lein yma, sy’n cefnogi ein dogfen Dyfodol y Rheilffordd a gytunwyd arni yn ystod cyfarfod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

“Ein nod ydi gweld gwasanaeth 30 munud ar hyd y llwybr yma a llwybrau eraill, a gall hynny ddigwydd yn fuan – yn amserlen mis Rhagfyr gobeithio. Byddwn yn parhau i ganlyn ein dyheadau rheilffordd i wella integreiddio rhwng bysiau a threnau, ac i leihau ôl troed carbon.”

Meddai’r Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, “Rwy’n croesawu’r cais hwn am gyllid a all arwain at gysylltiadau da i’r rhwydwaith rheilffyrdd a gwasanaethau amlach i gyrchfannau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol allweddol. Mae bob un yn hanfodol i helpu i sbarduno ac ysgogi twf economaidd yn Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydweithio ar draws Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy i gefnogi a sbarduno’r economi yn Wrecsam.”

Dyma’r trydydd cais i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU sy’n canolbwyntio ar ffyniant economaidd Wrecsam.

Yr wythnos ddiwethaf cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol ddau gais i’r gronfa – ar gyfer gwelliannau i’r Cae Ras ac i Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio am wefannau ffug sy'n copïo rhai gwreiddiol ac yn codi ffi Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio am wefannau ffug sy’n copïo rhai gwreiddiol ac yn codi ffi
Erthygl nesaf Lluoedd Arfog Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English