Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Achosion yn agos at 100 fesul 100,000 mewn rhannau o Ogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Achosion yn agos at 100 fesul 100,000 mewn rhannau o Ogledd Cymru
Pobl a lle

Achosion yn agos at 100 fesul 100,000 mewn rhannau o Ogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 24, 2021 3:58 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Covid 19
RHANNU

Erthygl gwadd – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Amrywiolyn delta yw’r straen mwyaf cyffredin o achosion newydd yng Nghymru o hyd

Mae pobl yng Ngogledd Cymru yn cael eu cynghori i gadw pellter cymdeithasol, i dderbyn y cynnig o frechlyn, a hunanynysu a chael prawf os byddant yn cael symptomau Coronafeirws wrth i ardaloedd o Ogledd Cymru ddangos cynnydd sylweddol mewn achosion o’r feirws.

Yn sir y Fflint, mae’r gyfradd achosion saith diwrnod bellach yn 99.9, yng Nghonwy mae’n 88.7, Sir Ddinbych 72.1 a Wrecsam 51.5 o achosion fesul 100,000. Mae’r achosion yng ngogledd Cymru bellach bron yn gyfan gwbl yn cynnwys amrywiolyn Delta.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Cyfanswm nifer yr achosion o amrywiolyn Delta yng Nghymru yw 788, sef cynnydd o 209 ers y diweddariad diwethaf ddydd Llun 21 Mehefin.

Credir bod y cynnydd yng ngogledd Cymru yn gysylltiedig â theithio ar draws y ffin hydraidd â Gogledd-orllewin Lloegr.

Meddai Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Digwyddiad, “Heddiw, mae ein dangosfwrdd yn dangos mai cyfanswm yr achosion o Delta yw 788 yng Nghymru.

“Mae’n wybyddus mai amrywiolyn Delta yw’r mwyaf cyffredin ym mhob achos newydd yng Nghymru a dangoswyd ei fod yn cael ei drosglwyddo’n haws o berson i berson na’r amrywiolyn amlycaf blaenorol, sef Alffa. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gyd gymryd camau i gadw ein hunain yn ddiogel a lleihau’r risg o drosglwyddo.

“Mae ein cyngor yn arbennig o berthnasol i bobl sy’n teithio i ardaloedd lle mae clystyrau hysbys o’r Coronafeirws oherwydd bod trosglwyddo’r amrywiolyn yn y gymuned yn amlwg.

“Rydym yn gweld achosion yn cynyddu dros Gymru ond yn enwedig yng Ngogledd ddwyrain Cymru lle mae teithio i Loegr ar gyfer gwaith a hamdden ac oddi yno yn gyffredin.

“Byddwch yn ymwybodol o Covid pan fyddwch yn teithio. Rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â chadw pellter cymdeithasol erbyn hyn, ond, drwy gadw o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, golchi ein dwylo’n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb gallwn gadw ein hunain a’n ffrindiau a’n teulu’n ddiogel.

“Derbyniwch y cynnig i gael brechiad pan fyddwch yn ei gael, oherwydd bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos.

“Mae awyru lleoedd dan do yn ffordd effeithiol arall o leihau lledaeniad haint, felly drwy agor ffenestri a drysau, gallwn ddiogelu ein hunain ymhellach.

“Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau COVID, rhaid i chi hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd yn datblygu symptomau.

Mae Cwestiynau ac Atebion ar Amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd am amrywiolion fesul bwrdd iechyd ar hyn o bryd, ond gall gadarnhau bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi rhoi gwybod am achosion.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Lluoedd Arfog Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021
Erthygl nesaf bus station Defnyddiwch eich masg wyneb yn yr orsaf fysiau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English